Mae’r lle sy’n disgrifio’i hun fel bar lleiaf Cymru, Bar Bach yng Nghaernarfon, wedi ailagor heddiw ac mae’r perchennog, Tudor Jones, yn dweud ei bod hi’n “braf bod yn ôl.”

Mae’r dafarn wedi bod ar gau ers dechrau pandemig y coronafeirws fis Mawrth, ond mae Caffi Maes sydd hefyd yn berchen i Tudor Hughes wedi agor ers 10 wythnos.

“Roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n amser ailagor, ac mae’n braf bod yn ôl wedi cyfnod mor hir,” meddai Tudor Hughes wrth golwg360.

“Mae gynnon ni system nwydd ac rydan ni wedi hyfforddi’r staff i gyd er mwyn sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud yn iawn a bod pawb yn saff.

“Rydan ni methu llenwi ein capasiti arferol, rhyw 34 sy’n gallu ffitio yma rwan. O’r blaen, roeddet ti’n arfer gallu cael tua 60, er mae’n debyg bod mwy na hynna wedi bod sawl noson,” meddai dan chwerthin.

Gwarchod swyddi staff

Dywed Tudor Jones mai un o’r prif resymau dros ailagor Bar Bach yn gwarchod swyddi staff.

“Dyna un o’r prif resymau rydan ni wedi ailagor, er mwyn gwarchod swyddi ein staff,” meddai.

“Maen nhw wedi cyffroi yn lan ein bod ni’n agor eto, doedd y balans ddim yn iawn efo jyst y caffi ar agor … mae’r caffi yn grêt wrth gwrs ond mae pethau wedi bod ychydig yn od heb y bar.”

Ac mae busnes wedi bod yn mynd yn dda yn y caffi ers ailagor.

“Mae pethau’n mynd yn arbennig o dda yn y caffi, rydan ni dal yn trio gneud popeth yn take away.

“Mae’r byrddau a bob dim tu allan sy’n saffach, mae hi wedi bod llawn dop genna ni ers rhyw 10 wythnos wan.

“Dw i’n difaru dim o ran ailagor ac rydan ni wedi derbyn cefnogaeth anhygoel gan ein cwsmeriaid.

“Dw i’n meddwl fod pawb yn falch bo’ ni wedi ailagor wan, roedd hi’n drist peidio gweld byrddau ar allan ar y maes.”

Y Cloi Mawr wedi bod yn “glec”

Roedd y Cloi Mawr yn “glec” i Bar Bach meddai Tudor Hughes wrth drafod “haf anodd.”

“Yn amlwg mae hi wedi bod yn haf anodd oherwydd dyna pryd mae hi brysuraf fel arfer efo twristiaid ac ati o gwmpas y dref a phobol leol.

“A ddim i frolio, ond dw i’n meddwl bod Bar Bach a’r Caffi yn gwneud gwasanaeth i Gaernarfon oherwydd mae ymwelwyr yn cael gweld bod yna iaith, rydan ni’n hyrwyddo’r ardal, y bobol a diwylliant Cymru.

“Dyna dw i wedi fethu, hynny a chael pobol leol sy’n dod yma i yfed ac rydan ni’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth pobol y dref.

“Ydi mae hi’n bwysig neud pres ond di hynna heb boeni fi gymaint â hynna, mae o jyst wedi bod yn brofiad reit drist bod ar gau.”

Gallai rheol 10:00yh “fod yn broblem”

Mae Tudor Hughes yn darogan y gallai’r rheol last orders am 10:00yh “fod yn broblem.”

“Wrth gwrs bod pawb isio bod ar agor yn hwyrach na hynna, dwi ddim meindio bod last orders am 10:00 ond dw i ddim  yn deall pawb bod pawb yn gorfod gadael erbyn 10:30yh.

“Mi fasa’n well pe tai pobol yn medru prynu tri neu bedwar diod am 10:00yh a chael aros ta rhyw 11:00yh.

“Fasa pobol yn gadael yn fwy naturiol wedyn, yn lle bod pawb yn gadael yr un pryd mewn criw mawr.”