Pan fydd y Frenhines yn marw, fe fydd hynny’n cael effaith mawr ar bobl Prydain, yn ôl y newyddiadurwr gwleidyddol Andrew Marr.

Dywedodd y bydd ei marwolaeth yn “foment anferthol” gan ei bod hi wedi bod yn rhan o fywyd Prydain ers 70 blynedd.

“Dw i ddim yn meddwl fod pobol yn sylweddol pa mor drawmatig mae’n mynd i deimlo oherwydd, beth bynnag yw eich barn am y teulu brenhinol, mae’r Frenhines wedi bod yn rhan o’n bywydau ers dros 70 blynedd,” meddai.

“Mae hi wedi bod ar stampiau, ar ein harian, mae hi wedi bod yn ein breuddwydion.

“Mae hi’n rhan ohonom mewn ffordd sy’n mynd i fod yn hynod boenus pan mae hi’n cael ei rhwygo o’n dychymyg ac ein hisymwybod.”

Roedd Andrew Marr yn siarad mewn digwyddiad yng Ngŵyl Llenyddiaeth Cheltenham (digidol) er mwyn hyrwyddo ei lyfr newydd, Elizabethans, sy’n adrodd hanes y 70 blynedd diwethaf drwy lygaid dros 60 o unigolion.