Cafodd Donald Trump ei hedfan i ysbyty milwrol neithiwr lai na 24 awr ar ôl profi’n bositif i’r coronafeirws.

Mae disgwyl iddo aros yno am ychydig ddyddiau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn y byddai’r arlywydd yn gweithio o’r ysbyty ar gyrion Washington sydd â’r cyfleusterau yno i’w alluogi i barhau â’i ddyletswyddau swyddogol.

Cerddodd Donald Trump allan o’r Tŷ Gwyn yn gwisgo masg i hofrennydd Marine One a oedd yn aros amdano, a chyhoeddodd fideo ar Twitter yn dweud ei fod yn gwneud yn dda iawn ond eu bod am “sicrhau bod pethau’n gweithio allan”.

Dywedodd ei feddyg, Sean Conley, ei fod yn gwneud yn “dda iawn”, ac nad yw angen ocsigen, ond y bydd yn derbyn therapi Remdesivir.

Yn y cyfamser, mae ymgeisydd y Democratiaid am yr arlywyddiaeth, y cyn-Is-arlywydd Joe Biden, wedi profi’n negyddol i’r haint. Gyda’r etholiad yn cael ei gynnal ddechrau’r mis nesaf, mae disgwyl y bydd yr Is-arlywydd Mike Pence yn cymryd lle Donald Trump mewn digwyddiadau ymgyrchu dros y pythefnos nesaf.