Mae Rishi Shunak wedi awgrymu bod angen i bobol “addasu” ac ystyried mynd i gyfeiriad gwahanol er mwyn sicrhau cyflogaeth yn sgil y pandemig.

Cafodd ei holi’n benodol a ddylai pobol sydd yn gweithio yn y celfyddydau – cerddorion, actorion ac artistiaid – ddod o hyd i swyddi eraill, awgrymodd y Canghellor fod gwaith ar gael o hyd yn y diwydiant creadigol, ond fod angen addasu.

“Alla’ i ddim esgus y gall pawb wneud yr un gwaith yn union ag yr oedden nhw’n ei wneud ar ddechrau’r argyfwng hwn,” meddai’r Canghellor mewn cyfweliad ag ITV News.

“Dyna pam rydyn ni wedi rhoi llawer o adnoddau i geisio creu cyfleoedd newydd.”

Mae mwyafrif y diwydiant creadigol a chelfyddydau yn parhau ynghau oherwydd cyfyngiadau Covid-19, a phrin yw’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu pobol yn y sector, yn enwedig y rhai sy’n gweithio’n llawrydd.

Diweithdra yn ‘debygol o gynyddu’

Eglurodd Rishi Sunak fod diweithdra yn “debygol o gynyddu” a hynny er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “ceisio gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn cymaint o swyddi â phosib”.

Bythefnos yn ôl, lansiodd y Canghellor ei Gynllun Economi dros y gaeaf, a ddyluniwyd i amddiffyn swyddi, ond mae nifer o weithwyr hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys yn y diwydiant creadigol yn teimlo eu bod wedi’u heithrio o gymorth newydd y llywodraeth.

Bydd cynllun ffyrlo, sydd wedi talu cyflogau mwy na naw miliwn o bobol yn y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig, yn gorffen ddiwedd mis Hydref.

Ddoe (dydd Llun, Hydref 5), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa o £7m sy’n galluogi gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru wneud cais am grant cymorth o £2,500.

Mae’r arian yn cael ei ddyrannu gan awdurdodau lleol ac oherwydd y galw, bu’n rhaid i Gaerdydd atal ceisiadau wedi awr o agor am ei fod mor brysur.