Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn dweud fod peidio cael ateb gan Boris Johnson i’w lythyr ynghylch cyfyngiadau teithio yn “gwbl amharchus, nid i fi ond i’r Senedd ac i bobol Cymru”.

Roedd Adam Price wedi pwyso ar brif weinidog Cymru i ystyried cyflwyno mesurau er mwyn rhwystro pobol o Loegr sydd o dan gyfyngiadau rhag teithio i ardaloedd yng Nghymru.

“Dros y bythefnos ddiwethaf, dw i wedi codi pa mor wallgof yw’r ffaith fod pobol mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau yn Lloegr yn gallu teithio i ardaloedd yng Nghymru lle mae trosglwyddo cymunedol yn isel,” meddai Adam Price yn sesiwn holi’r prif weinidog yn y Senedd.

“Ni ddylai gwrthodiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig i gyfyngiadau teithio fod yn sioc o ystyried yr atgasedd mae ef a’i Lywodraeth yn ei ddangos tuag at Gymru.

“Allwch chi ddweud os a phryd rydych yn bwriadu gweithredu’n annibynnol?”

Ateb y prif weinidog

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn “rhannu ei siom ynghylch casgliad honedig y prif weinidog, a dw i’n dweud honedig oherwydd er ei fod wedi gwneud cyfweliad ar y mater hwn, dyw e heb ymateb i’n llythyr ato ers dydd Llun diwethaf”.

“Dw i’n meddwl bod hynny yn gwbl amharchus, nid i fi ond i’r Senedd ac i bobol Cymru,” meddai.

“Dw i yn disgwyl cael ateb i’r llythyr hwnnw a dw i’n disgwyl gweld rhesymeg sy’n egluro pam fod y Prif Weinidog wedi dod i’r casgliad hwn.”

Ychwanegodd ei fod yn edrych ar yr un pryd ar fesurau pellach ac yn ystyried a ydynt yn gallu codi cyfyngiadau lleol.

Y Ceidwadwyr yn galw am strategaeth i ddelio ag amserau aros am driniaethau

Yn y cyfamser, mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am strategaeth i ddelio ag amserau aros am driniaethau, gan alw ar Lywodraeth Cymru i “ddyblu ei hymdrechion.”

Dywedodd Mark Drakeford nad oes dianc rhag y ffaith y bydd pobl yn gorfod aros yn hwy am rai triniaethau yng Nghymru.

“Mae’r aelod yn gywir i bwyntio allan bod y coronafeirws wedi ac yn parhau i gael effaith ddifrifol ar y Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

“Ond dw i’n ofni bod hyn yn anochel a does dim modd dianc rhag hynny.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n aruthrol o galed i greu’r amgylchiadau lle mae cymaint o weithgaredd ac sy’n bosib yn gallu bwrw ymlaen yn saff tra bod argyfwng y coronafeirws yn parhau.”

Ychwanegodd y prif weinidog nad oedd Paul Davies wedi cynnig unrhyw awgrym am sut i ddelio â’r problemau.

Pobol ifanc yn cael eu trin yn wahanol?

Awgrymodd Lynne Neagle, Aelod o’r Senedd tros ardal Torfaen, wedyn fod pobol ifanc yn cael eu trin yn wahanol.

“Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i liniaru effaith pandemig y coronaferiws ar bobl ifanc yng Nghymru?” holodd hi.

Aeth yn ei blaen i grybwyll fod pobol ifanc yn ei hetholaeth yn cael eu gwrthod wrth fynd ar drenau Trafnidiaeth Cymru er mwyn arbed lle i deithwyr eraill ac yn gorfod mynd ar fysiau.

Dywedodd fod hyn wedi arwain at nifer fawr o bobol ifanc yn colli neu’n hwyr i ysgolion a cholegau.

“Dw i ddim am i bobol ifanc gael eu trin yn wahanol am fod yn bobol ifanc,” atebodd Mark Drakeford.

“Ond er bod rhai cerbydau trên yn edrych fel bod lle, mae’r seddi hynny yn hanfodol ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.”

Aeth yn ei flaen i ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu 70 gwasanaeth bws er mwyn lliniaru’r broblem a bod teithio ar fws yn “saffach i bobol ifanc sydd mewn swigen gyda chyd-ddisgyblion”.

“Mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithio’n galed mewn cyfnod anodd i sicrhau bod pobol ifanc yn gallu cael mynediad i addysg,” meddai.