Mae Gweinidogion Cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gwneud datganiadau ar y cyd am y tro cyntaf erioed, er mwyn mynegi eu pryder a galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am fwy o hyblygrwydd cyllidol i ymdopi ag effeithiau Covid-19.

Maen nhw hefyd yn galw am gael chwarae rhan yn yr Adolygiad o Wariant er mwyn gallu cynllunio Cyllidebau, ac am sicrwydd y bydd cyllid llawn ar gael yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd ac y bydd y cyllid yma yn cael ei reoli yn unol â threfniadau datganoli’r gwledydd unigol.

Eglurodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, mai diogelu pobol Cymru rhag effeithiau gwaethaf y pandemig yw ei blaenoriaeth.

“Rwy’n canolbwyntio ar ddiogelu pobol Cymru rhag effeithiau gwaethaf y pandemig yn ogystal â gosod sylfaen ar gyfer ein hadferiad sy’n seiliedig ar swyddi, ein pobol ifanc a’r amgylchedd,” meddai.

“Fodd bynnag, mae penderfyniad y Canghellor i ganslo Cyllideb y Deyrnas Unedig yn yr hydref, ochr yn ochr â’r ansicrwydd ynglŷn â’r Adolygiad o Wariant a’r diffyg gwybodaeth ynghylch pa gyllid fydd ar gael yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd, oll yn cyfrannu at wneud y dasg hon yn un anoddach fyth.

“Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw i ddarparu’r tegwch, yr hyblygrwydd a’r eglurder sydd eu hangen arnom i gefnogi a diogelu ein cymunedau a’n busnesau.”

Conor Murphy, Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon

Cynrychioli dros 10m o bobol

“Fel Gweinidogion Cyllid, rydyn ni’n cynrychioli dros 10 miliwn o bobol, a heddiw rydyn ni’n siarad ag un llais,” meddai Conor Murphy, Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon.

“Rydyn ni’n galw am gael chwarae rhan briodol yn yr Adolygiad o Wariant fel y gallwn gynllunio ein Cyllidebau.

Rydyn ni hefyd yn galw am gyllid llawn yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd, ac iddo gael ei reoli’n lleol.”

Kate Forbes, Ysgrifennydd Cyllid yr Alban

Disgrifiodd Kate Forbes, Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, y dewis i gyd-alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig fel un “digynsail”.

“Mae’n dangos lefel y pryder yr ydym yn ei rannu ar draws gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig, ar draws gwahanol bleidiau ac ar draws gwahanol ddeddfwrfeydd,” meddai.

“Does dim modd gorbwysleisio pwysigrwydd y materion hyn.

“Maen nhw’n effeithio’n uniongyrchol ar ein gallu i ymateb i Covid-19, i reoli cyllid ein gwledydd ac i gefnogi ein cymunedau a’n busnesau yn ystod y pandemig.

“Fel cynrychiolwyr ein tair gwlad, rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu’r eglurder, y sicrwydd a’r hyblygrwydd sydd eu hangen arnom.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb i’r galwadau hyn.”