Fe fydd arian o dreth ail gartrefi yn cael ei ddefnyddio i ariannu 18 o dai fforddiadwy yn Solfach yn Sir Benfro.

Mae’n rhan o gynlluniau ehangach rhwng Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solfach, Cyngor Sir Penfro a chwmnïau PLANED ac Ateb i ddatblygu tai fforddiadwy yn yr ardal.

Ddoe (dydd Llun, Hydref 5), cytunodd Cabinet Cyngor Sir Benfro y bydd grant ar gyfer costau’r datblygiad yn cael ei dalu yn llawn i gwmni Ateb fydd yn cynllunio’r tai – gyda’r manylion llawn eto i’w cytuno.

Ond dydy’r Cyngor ddim yn gallu dyfarnu’r grant terfynol heb gydsyniad Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y Cabinet, maen nhw eisoes wedi cysylltu â Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Daw cynlluniau Cyngor Sir Benfro yn dilyn pryderon cynyddol am ail gartrefi yng Nghymru yn sgil y coronafeirws.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu i gynghorau godi treth y cyngor y gellid ei chodi ar ail gartrefi i o leiaf 200%.

Wrth ymateb, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru wrth golwg360 fod gan gynghorau bwerau dewisol i godi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi. O ran Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol, dywedodd Llywodraeth Cymru:

“Rydm yn croesawu ffurfiad Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol gan Gyngor Sir Penfro i ddarparu tai fforddiadwy yn Solfach.

“Mae Ymddiriedolaeth yn rhoi’r gymuned wrth wraidd y broses o gaffael a rheoli’r tai yn y tymor hir, gan geisio mynd i’r afael â galw lleol i gynnal bywiogrwydd cymunedol lleol.”