Mae Heddlu’r Gogledd wedi dod o hyd i gorff dyn yn yr afon yn Abergwyngregyn.

Roedden nhw wedi bod yn chwilio amdano cyn dod o hyd i’w gorff am oddeutu 4 o’r gloch brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Hydref 6).

Cawson nhw eu galw yn dilyn adroddiadau bod y dyn wedi cwympo i mewn i’r afon, ac fe gawson nhw gymorth Gwylwyr y Glannau a Thîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.

Daethon nhw o hyd i’w gorff toc cyn 7.15yh, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.