Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r gitarydd Eddie Van Halen, gitârydd metel trwm sy’n cael ei ddisgrifio fel “Mozart y gitâr”.

Bu farw’n 65 oed ar ôl brwydr hir i gwffio canser.

Daeth y band Van Halen yn enwog am gyfuno roc a rôl gyda metel trwm wrth iddyn nhw ddod yn un o fandiau mwya’r 1980au.

Cafodd ei eni yn yr Iseldiroedd a’i fagu yng Nghaliffornia, gan ffurfio’r band gyda’i frawd Alex, y basydd Michael Anthony a’r canwr Roth yn 1974.

Roedden nhw’n chwarae yng nghlybiau Los Angeles cyn i’w halbwm cyntaf werthu mwy na 10,000 o gopïau yn yr Unol Daleithiau yn 1978.

Erbyn y 1980au, roedden nhw wedi rhyddhau sawl albwm ac wedi dod yn un o fandiau mwya’r byd.

Yn 2015, roedd Eddie Van Halen yn wythfed ar restr y cylchgrawn Rolling Stone o chwaraewyr gitâr gorau’r byd.

Cafodd y band eu derbyn i Oriel yr Enwogion Roc a Rôl yn 2007.

Dywedodd Wolfgang Van Halen, ei fab a basydd y band, mai Edward Lodewijk Van Halen yw’r “tad gorau y gallwn ofyn amdano”.

Dywedodd ei wraig gyntaf, Valerie Bertinelli, ei fod e wedi cadw ei “ysbryd hyfryd a’i wên ddireidus”.

Roedden nhw’n briod rhwng 1981 a 2007, ac roedd Eddie Van Halen yn briod â Janie Liszewski wedyn.

Teyrngedau eraill

Ymhlith y rhai yn y byd cerddoriaeth sydd wedi rhoi teyrngedau iddo mae David Lee Roth, cyd-aelod o’r band Van Halen, a ddywedodd iddyn nhw gael “taith hir wych” fel band.

Dywedodd Pete Townshend o’r band The Who fod ei farwolaeth “yn hollol drasig” a’i fod e’n “chwaraewr arloesol llawn steil” ac yn berfformiwr o fri.

Dywedodd Mike McCready o Pearl Jam ei fod e wedi ei ysbrydoli i ddechrau chwarae’r gitâr a bod doniau’r gitarydd “o blaned arall”, gan ei ddisgrifio fel “Mozart y gitâr”.

Dywedodd Sammy Hagar, cyn-aelod o’r band Van Halen ei fod e’n torri’i galon, wrth i Nikki Sixx o’r band Motley Crue ddweud bod y newyddion wedi ei “chwalu”.

Dywedodd Gene Simmons, canwr Kiss, ei fod e’n “Dduw y gitâr”, wrth i Lenny Kravitz ei ddisgrifio fel cerddor “chwedlonol” ac “arloesol”.

Ac fe gafodd ei ddisgrifio gan Geezer Butler, cyd-sylfaenydd Black Sabbath, fel “bonheddwr ac athrylith”.