Y cyfarwyddwr celf a dylunydd cynhyrchu Leslie Dilley o’r Rhondda yw enillydd Gwobr Cyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu BAFTA Cymru eleni.
Mae’n fwyaf adnabyddus am ei waith ar y ffilmiau Star Wars, Alien, Raiders of the Lost Ark a The Abyss, ac fe fydd y Gwobrau’n cael eu darlledu ar sianeli cymdeithasol BAFTA am 7 o’r gloch nos Sul, Hydref 25.
Dyma’r tro cyntaf i ddylunydd cynhyrchu ennill y wobr arbennig hon.
Bywyd a gyrfa
Cafodd ei eni yn nhref Pontygwaith yng Nghwm Rhondda yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a hynny yng nghartref plentyndod ei fam.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Technegol Willesden ac fe aeth yn brentis plastro yn 15 oed yn yr Associated British Picture Corporation ar ôl gwneud cais aflwyddiannus i fynd i weithio yn Pinewood Studios.
Ond fe ymunodd e â’r stiwdios yn brif blastrwr 21 oed, gan weithio ar sawl ffilm adnabyddus, gan gynnwys From Russia With Love.
Aeth i weithio wedyn yn yr Adran Gelf yn ddrafftsmon iau, cyn dod yn Gyfarwyddwr Celf ar y ffilm The Three Musketeers yn 1973, ac fe weithiodd ar ffilmiau eraill fel Star Wars (1977), Superman (1978), Alien (1979), Raiders of the Lost Ark (1981), The Empire Strikes Back (1980), Never Say Never Again (1983) a Legend (1985).
Ei ffilm gyntaf yn ddylunydd cynhyrchu oedd An American Werewolf in London (1981).
Enillodd e Oscar ar gyfer ei waith ar y ffilm Star Wars yn 1978 ac fel aelod o’r tîm dylunio cynhyrchu ar gyfer Raiders of the Lost Ark yn 1981.
Cafodd ei enwebu ar gyfer Oscar y Cyfarwyddwr Celf Gorau am ei waith ar Alien yn 1980, Star Wars – The Empire Strikes Back yn 1981 a The Abyss yn 1990.
Fe weithiodd e hefyd ar The Exorcist III (1990), Casper (1995), Peacemaker (1997), Men of Honor (2000), Pay It Forward (2000) a Cold Creek Manor (2003).
Mae e hefyd wedi gwneud ymddangosiadau cameo yn y ffilmiau y bu’n ddylunydd cynhyrchu ar eu cyfer, gan gynnwys Guilty by Suspicion (1991), Diabolique (1996), Deep Impact (1998) ac eraill.
Gorffennodd ei yrfa gyda’i brosiect olaf, y gyfres deledu Teacup Travels (2014-2016), ac yntau wedi dylunio’r cynhyrchiad yng Nghaeredin.
‘Braint fawr’
“Mae’n fraint fawr i gael fy nghydnabod gan fy nghyd-Gymry yn BAFTA Cymru ar gyfer y wobr hon,” meddai.
“Gobeithiaf y bydd fy nhaith yn annog artistiaid uchelgeisiol i danio eu brwdfrydedd yn y maes hwn.
“Rydw i mor ffodus o fod wedi cael yr yrfa hon yn y diwydiant ffilmiau a’m bod wedi gallu cydweithio â llawer o unigolion dawnus i roi bywyd i gymaint o ffilmiau amrywiol.”
Dywed Angharad Mair, cadeirydd BAFTA Cymru, fod y wobr unwaith eto’n “dathlu gyrfa ddisglair” ac yn cydnabod “ysbrydoliaeth enfawr” eleni.
“Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn dewis yr unigolion hynny sydd wedi rhagori yn y diwydiant ffilm a theledu rhyngwladol sy’n llysgenhadon gwych i Gymru a’r diwydiannau creadigol fel derbynyddion ein Gwobrau Arbennig,” meddai.
“Unwaith eto eleni, rydym yn dathlu gyrfa ddisglair unigolyn y mae ei yrfa wedi mynd ag ef o gymoedd de Cymru i Hollywood a rhai o ffilmiau mwyaf adnabyddus ein hoes.
“Mae Les Dilley yn ysbrydoliaeth enfawr.
“Ef oedd un o’r bobl oedd yn gwthio “y” garreg fawr honno yn Raiders of the Lost Ark.
“Roedd yn gyfrifol am R2D2 ar y set yn y ffilm Star Wars gyntaf a gweithiodd ar set cartref Luke yn Tunisia.
“Mae ganddo gymaint o straeon o’i bum degawd o waith ar fwy na 40 o wahanol brosiectau ffilm a theledu gyda’r enwau mwyaf yn y busnes – George Lucas, Ridley Scott, Steven Spielberg, John Landis, James Cameron a Mimi Leder.
“A dechreuodd y cyfan yng Nghymru.
“Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ei wobr arbennig i Les ar 25 Hydref.”