Fe fu dadl deledu danllyd arall yn yr Unol Daleithiau neithiwr (nos Fercher, Hydref 7), y tro hwn rhwng yr ymgeiswyr i fod yn Ddirprwy Arlywydd.
Yn wahanol i’r ddadl yr wythnos ddiwethaf rhwng yr Arlywydd Trump a’i wrthwynebydd Joe Biden, roedd mesurau ychwanegol yn eu lle i leihau ymlediad y coronafeirws.
Yn ystod y digwyddiad, a gafodd ei gynnal ym Mhrifysgol Utah yn Salt Lake City, roedd y Dirprwy Arlywydd Mike Pence a’r Democrat Kamala Harris wedi’u gwahanu gan sgriniau plastig, a bu’n rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa wisgo gorchudd wyneb.
Y feirws hefyd oedd prif bwnc trafod y ddadl, gyda 210,000 o bobol wedi marw â’r coronafeirws yn yr Unol Daleithiau.
Disgrifiodd Kamala Harris hyn fel “methiant mwyaf unrhyw weinyddiaeth arlywyddol”.
Cyhuddodd Kamala Harris yr arlywydd a’i gwrthwynebydd hefyd o gamarwain Americanwyr yn fwriadol am ddifrifoldeb y coronafeirws.
Er i Mike Pence gydnabod fod “ein cenedl wedi mynd trwy gyfnod heriol iawn eleni”, eglurodd fod yr Arlywydd Trump “wedi rhoi iechyd Americanwyr yn gyntaf o’r diwrnod cyntaf”.
Fe fu hefyd dadlau am yr amgylchedd, hil, trethu a’r Goruchaf Lys.
Hil
Pan drodd y ddadl at hil, dywedodd Mike Pence nad oedd hiliaeth systemig yn bod o fewn yr heddlu yn y wlad.
Cyfeiriodd Kamala Harris, serch hynny, at Breonna Taylor a George Floyd a gafodd eu lladd gan yr heddlu yn ddiweddar.
“Mae yna heddweision drwg ac mae yna heddweidion da,” meddai.
Wrth ymateb, dywedodd Mike Pence ei fod yn cydymdeimlo â theulu Breonna Taylor, ond ei fod yn ymddiried yn system gyfiawnder yr Unol Daleithiau.
Fe gwestiynodd sut y gallai Kamala Harris, sydd yn gyn-erlynydd a thwrnai cyffredinol, fynd yn erbyn penderfyniadau rheithgor.
Polau piniwn
Mae’r polau piniwn diweddaraf yn dangos mai Joe Biden yw’r ceffyl blaen yn y ras i gyrraedd y Tŷ Gwyn, ond mae’n parhau’n agos iawn rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid.
Bydd Americanwyr yn pleidleisio ymhen 26 diwrnod.