Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau mai Alun Owen, neu ‘Al Bonc’, yw’r dyn 32 oed y cafwyd hyd i’w gorff yn Abergwyngregyn ddydd Mawrth (Hydref 6).

Fe fu sawl asiantaeth yn chwilio afon Aber yn dilyn adroddiadau bod peiriannydd BT wedi mynd i drafferthion toc cyn 4 o’r gloch y prynhawn.

Cafwyd hyd i’r corff am 7.14yh.

Mae’r heddlu wedi cydymdeimlo â’i deulu, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Heddlu’r Gogledd yn cynnal ymchwiliad i’r “digwyddiad trasig arweiniodd at farwolaeth dyn lleol uchel ei barch”, meddai llefarydd.