Mae Leanne Wood, Aelod o’r Senedd dros y Rhondda, wedi galw am ymchwiliad annibynnol ar ôl i lifogydd daro cartrefi yno unwaith eto.

Mae adroddiadau bod cartrefi yn Nhreorci a Rhondda Fawr wedi eu heffeithio gan y llifogydd dros nos.

Cafodd o leiaf 1,000 o fusnesau a chartrefi yn y Rhondda eu heffeithio gan lifogydd ym mis Chwefror yn dilyn stormydd Ciara a Dennis.

Mae deiseb sy’n galw am ymchwiliad llawn i hyn eisoes wedi denu’r 5,000 angenrheidiol o lofnodion er mwyn bod yn destun dadl yn y Senedd.

Dinistriol

“Mae’r llifogydd diweddaraf yn ddinistriol i’r rhai a gafodd eu heffeithio,” meddai Leanne Wood.

“Mae rhai o’r cartrefi ar y Stryd Fawr yn Nhreorci wedi dioddef llifogydd o’r blaen, a rhai pobol ddim ond newydd orffen gwaith atgyweirio ac adnewyddu.

“Dw i wedi clywed gan bobol oedd i fyny am 4 y bore yn ceisio cadw’r dŵr allan o’r tŷ.

“Nid dyma’r ffordd i bobol fyw; gyda’r bygythiad cyson o lifogydd pryd bynnag y bydd glaw parhaus.

“Dw i wedi cysylltu â Dŵr Cymru y bore yma i ofyn a oedd yr achos yn gysylltiedig â thoriad pŵer a methiant pwmp – maen nhw wedi addo atebion i mi cyn gynted â phosibl.

“Er gwaethaf addewidion gan y Cyngor ac awdurdodau eraill i fynd at waelod y problemau, mae’n parhau i ddigwydd.

“Dyma pam mae Plaid Cymru yn pwyso am ymchwiliad llifogydd annibynnol.

“Rhaid cael llygad ddi-duedd i ystyried beth sydd wedi digwydd, pam ei fod yn parhau i ddigwydd ac i ddod o hyd i atebion a fydd yn lleihau’r risg o lifogydd yn digwydd – nid yn unig nawr ond hefyd am y blynyddoedd i ddod pan fyddwn yn debygol o weld tywydd mwy eithafol oherwydd argyfwng yr hinsawdd.”