Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “anwybyddu helynt pobol hŷn” wrth iddyn nhw alw am Fesur Pobol Hŷn.

Daw sylwadau Darren Millar, llefarydd iechyd y blaid, ar ôl i’w hadroddiad, Ail-greu ar ôl y Coronafeirws: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau, fethu â chyfeirio at effaith anghymesur y feirws ar y garfan hon yn y gymdeithas.

Mae ei sylwadau wedi’u hategu gan Helena Herklots, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru.

‘Gwarth’

“Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld hynt pobol hŷn yn cael ei anwybyddu gan y Llywodraeth Cymru hon dan arweiniad Llafur,” meddai Darren Millar.

“Mae pobol hŷn wedi wynebu baich y pandemig ond eto, mae Gweinidogion ym Mae Caerdydd fel pe bai ganddyn nhw fan dall pan ddaw i glywed eu llais a diwallu eu hanghenion.

“Mae’n warth nad oes cyfeirio at bobol hŷn yng nghynllun Llywodraeth Cymru er mwyn adfer o’r pandemig a dangos cyn lleied o barch sydd gan Weinidogion tuag at y garfan bwysig hon yn y gymdeithas.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ar frys â’r Comisiynydd Pobol Hŷn a rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael eto o’r newydd â’u blaenoriaethau a sicrhau nad yw anghenion pobol hŷn yn cael eu hesgeuluso.

“Mae’r mater hwn yn tanlinellu ymhellach yr angen am Fil Hawliau Pobol Hŷn yng Nghymru.”

Pryderon y Comisiynydd

“Rydym yn gwybod fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar nifer o bobol hŷn ledled Cymru, yn enwedig y sawl sy’n wynebu’r perygl mwyaf, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n cydnabod hyn yn eu dulliau ail-greu ac adfer,” meddai Helena Herklots, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru.

“Dw i hefyd yn gofidio nad yw’r ddogfen yn cydnabod fod pobol hŷn yn gyfranwyr pwysig i’r gymdeithas yng Nghymru a’n heconomi, a bod ganddyn nhw rôl hanfodol yn adferiad a dyfodol Cymru.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.