Mae gweithiwr mewn canolfan brofi yn Llandudno wedi profi’n bositif am Covid-19, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl adroddiad y Local Democracy Reporting Service, cafodd y gweithiwr symptomau’r wythnos ddiwethaf a bellach, mae gweithwyr eraill yn y ganolfan brofi hefyd yn hunanynysu.

Dydy hi ddim yn glir faint o weithwyr o’r ganolfan brofi yn sir Conwy sydd yn hunanynysu, ond mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau bod y ganolfan brofi bellach wedi ailagor ar ôl cael ei glanhau.

Mae gweithlu newydd yno erbyn hyn hefyd.

Datganiad

“Dywedodd aelod o staff fod ganddynt symptomau ac ers hynny mae wedi profi’n bositif,” meddai Adran Iechyd a Gofal Cymeithasol.

“Mae’r prawf positif wedi ei drin yn y ffordd briodol.”

Llywodraeth y Deyrnas Unedig, nid Llywodraeth Cymru, sydd yn gyfrifol am y ganolfan brofi yn Llandudno.

Dydy Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim yn gyfrifol am unrhyw ganolfannau profi galw heibio.