Mae sylwadau diweddar Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, am gyfreithwyr yn “warthus” yn ôl Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru.
Wrth annerch cynhadledd rithiol y Ceidwadwyr, mi wnaeth Priti Patel feirniadu’r cyfreithwyr hynny sydd yn sefyll cornel mewnfudwyr.
Mae hi wedi cael ei beirniadu am ei hagwedd galed tuag at fewnfudwyr sydd yn croesi’r Sianel ac yn ei haraith, wnaeth hi gyfeirio atyn nhw yn yr un modd â traffickers – pobol sy’n cludo eraill dros ffiniau yn anghyfreithlon.
“Mae’r iaith yma yn warthus,” meddai Jeremy Miles wrth ymateb i hynny.
“Mae’n hollol annerbyniol nad yw cyfreithwyr yn teimlo’n ddiogel wrth wneud y gwaith hollbwysig o gefnogi eu cleientiaid.”
Sylwadau Priti Patel
Wrth siarad yng nghynhadledd ei phlaid, dywedodd Priti Patel fod cyfreithwyr yn “amddiffyn rhywbeth nad oes modd ei amddiffyn”.
“Bydd y rheiny sydd yn gwybod yn iawn sut i fanteisio ar system sydd wedi torri ac elwa ohoni yn pregethu theorïau mawrion hawliau dynol i ni,” meddai.
“Does dim amheuaeth am hynny.
“Y rheiny sydd yn amddiffyn y sustem sydd wedi torri sydd yn cludo pobol dros ffiniau yn anghyfreithlon (traffickers), ymyrwyr ‘daionus’, cyfreithwyr lefty, y Blaid lafur.
“Mae’r rhain oll yn amddiffyn rhywbeth nad oes modd ei amddiffyn.”
Trais yn erbyn cyfreithwyr
Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi gofyn i’r Swyddfa Gartref gymryd gofal â’r iaith maen nhw’n ei defnyddio.
“Mae dweud y fath bethau yn medru arwain at gyfreithwyr yn cael eu cam-drin yn eiriol, neu’n cael eu hymosod yn gorfforol am gyflawni eu swyddogaethau,” meddai.
“Ac mae’n tanseilio system gyfreithiol sydd wedi esblygu dros sawl canrif – system sy’n helpu sicrhau nad yw pŵer yn cael ei gamddefnyddio.”
Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref yn dweud bod “cyfreithwyr yn rhan bwysig wrth gynnal trefn y gyfraith … a bod unrhyw fath o drais yn eu herbyn yn hollol annerbyniol”.