Fe ddaeth i’r amlwg fod Hashem Abedi, bomiwr Manceinion, yn cael ei gadw yng ngharchar diogelwch tynn Frankland yn Swydd Durham.
Mae’n un o dri charchar â chanolfannau ar wahân i gadw rhai sydd wedi’u cael yn euog o droseddau brawychol.
Cafwyd y dyn 23 oed yn euog ym mis Mawrth o 22 o achosion o lofruddio, ceisio llofruddio a chynllwynio i achosi ffrwydrad a fyddai’n debygol o beryglu bywydau.
Ei frawd Salman Abedi, 22, oedd wedi tanio’r bom yng nghyntedd Arena Manceinion ar Fai 22, 2017 ar ddiwedd cyngerdd Ariana Grande.
Cafodd Hashem Abedi ei garchar am o leiaf 55 o flynyddoedd – y ddedfryd fwyaf erioed – ar ôl cael 24 o ddedfrydau oes gyfan.
Ymhlith ei gyd-garcharorion yng ngharchar Frankland mae Michael Adebolajo oedd wedi lladd y milwr Lee Rigby, yr Yorkshire Ripper Peter Sutcliffe, a Charles Bronson.
Canolfannau “carchar o fewn carchar”
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw Hashem Abedi yn cael ei gadw yn y ganolfan benodol i’r rhai sydd wedi’u cael yn euog o droseddau brawychol.
Mae modd symud carcharorion i’r canolfannau hyn os ydyn nhw’n cael eu cysylltu â chynllwyn i gyflawni troseddau brawychol o’r carchar neu os ydyn nhw’n peryglu diogelwch y cyhoedd.
Treuliodd y brodyr Abedi fisoedd lawer yn cynllwynio’r ymosodiad ym Manceinion, gan archebu a chludo nwyddau i greu ffrwydron a defnyddio sawl dyfais i wneud hynny.
Aethon ni i gyfarfod â’u rhieni yn Libya fis yn unig cyn yr ymosodiad, ond dychwelodd Salman Abedi i Loegr ddyddiau cyn iddo ffrwydro’r arena er mwyn prynu rhagor o nwyddau.
Y rhai fu farw oedd Elaine McIver, Saffie Roussos, Sorrell Leczkowski, Eilidh MacLeod, Nell Jones, Olivia Campbell-Hardy, Megan Hurley, Georgina Callander, Chloe Rutherford, Liam Curry, Courtney Boyle, Philip Tron, John Atkinson, Martyn Hett, Kelly Brewster, Angelika Klis, Marcin Klis, Michelle Kiss, Alison Howe, Lisa Lees, Wendy Fawell a Jane Tweddle.