Mae 18 rhybudd melyn i “fod yn barod” am lifogydd mewn grym yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn y gogledd, mae’r rhain yn cynnwys afon Conwy, Dalgylch Conwy, Pont ar Ddyfi, ardaloedd o gwmpas yr Afon Dysynni ac ardaloedd o gwmpas Afon Glaslyn.

Mae ardaloedd o gwmpas yr afon Ddyfi, o Ddinas Mawddwy a Llanbrynmair i’r aber gan gynnwys Machynlleth, hefyd wedi derbyn rhybudd yn ogystal ag ardaloedd o gwmpas afonydd Mawddach ac Wnion, o’r Friog i Ganllwyd a Rhydymain.

Ac mae rhybudd am afon Hafren a’i llednentydd, ac afonydd Efyrnwy, Tanat a Chain a’u llednentydd.

Y de-orllewin

Mae saith rhybudd mewn grym yn y de-orllewin, gan gynnwys afonydd dalgylchoedd Llynfi ac Ogwr, tra bod rhybuddion am afonydd Rheidol, Ystwyth a Chlarach hefyd.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod afonydd dalgylch Tywi isaf islaw Llandeilo a Thywi uchaf uwchlaw Llandeilo yn peri risg, ond nid Llandeilo ei hun.

Mae Llanybydder hefyd wedi cael rhybudd melyn.

Y de-ddwyrain

Dim ond dau rybudd sydd mewn grym yn y de-ddwyrain.

Y rhain ydi afon Wysg ym Mhowys ac afon Gwy ym Mhowys.