Mae achos llys tri o bobol mewn perthynas â thrychineb Hillsborough wedi cael ei ohirio am yr ail waith.

Roedd disgwyl i’r achos gael ei gynnal fis Ebrill eleni, cyn cael ei ohirio tan fis Ionawr.

Ond daeth cadarnhad bellach na fydd yn dechrau tan Ebrill 19.

Mae Donald Denton ac Alan Foster, dau gyn-blismon, a’r cyn-gyfreithiwr Peter Metcalf yn wynebu cyhuddiadau o weithredu gyda’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn ôl Mr Ustus William Davis yn Llys y Goron Preston, does dim modd adrodd pam fod yr achos wedi cael ei ohirio eto.

Cefndir

Mae Donald Denton, Alan Foster a Peter Metcalf wedi’u cyhuddo o newid datganiadau yn dilyn y trychineb yn stadiwm Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday ar Ebrill 15, 1989.

Bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl yn sgil y digwyddiad wrth i’r tîm herio Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad nesaf bara deuddydd wrth i baratoadau cyfreithiol gael eu cwblhau, ac fe fydd y rhan fwyaf o siaradwyr yn ymddangos trwy gyswllt fideo.

Mae’r achos yn parhau.