Mae ail gartrefi “heb os yn broblem” i gymunedau a’r iaith Gymraeg, ac mae’r Llywodraeth yn ceisio dod o hyd i ddatrysiad, yn ôl Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg.

Daw ei sylwadau wrth iddi roi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw (dydd Iau, Hydref 8).

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon tawel ynghylch y mater tan nawr – ac eithrio ymyrraeth rhai misoedd yn ôl.

“Un mater sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ystod y pandemig yma yw’r broblem ail gartrefi,” meddai.

“Ac mae hynny’n rhywbeth mae [un o’n grwpiau] wedi bod yn ei ystyried ers cryn amser.

“Rydym ni wir yn ceisio dod o hyd i ateb i rywbeth sydd heb os yn broblem.

“Ac nid yw’n broblem i gymunedau Cymraeg yn unig.

“Ond mae’n broblem ychwanegol i gymunedau Cymraeg.

“Felly rydym yn ymchwilio tipyn i atebion posib er mwyn sicrhau bod pobol yn y cadarnleoedd Cymraeg yn medru aros yno.”

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn ymchwilio i effaith yr argyfwng covid-19 ar ddiwylliant a threftadaeth.

Y sefyllfa tai haf

Mae sefyllfa ail gartrefi Cymru wedi bod yn dipyn o bwnc llosg dros yr wythnosau diwethaf, ac mae yna gryn bryderon fod hyn cael effaith ar brisiau tai mewn cymunedau Cymraeg.

Mae hynny yn ei dro, yn ôl y ddadl, yn arwain at Gymry ifanc yn gorfod gadael cadarnleoedd yr iaith, ac felly at ddirywiad y Gymraeg.

Rhwng Mawrth y llynedd ac Ebrill eleni, roedd 38% o eiddo a gafodd ei werthu yng Ngwynedd yn destun cyfradd uwch y dreth preswyl o dan y Dreth Trafodiadau Tir, cyfradd sy’n cael ei thalu ar ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod ymhlith eraill, yn ôl ystadegau diweddaraf. Dyma’r ffigwr uchaf yng Nghymru, yn ôl Awdurdod Cyllid Cymru.

Ac mae data tai Cyngor Gwynedd yn dangos bod 59% o bobol y sir yn methu fforddio prynu tai yno.

Cafodd Llywodraeth Cymru eu cyhuddo o “roi’r ffidil yn y to” o ran y mater fis diwetha’.

Pryderon am yr Urdd

Wrth siarad â’r pwyllgor, bu’r gweinidog hefyd yn siarad am effaith yr argyfwng ar rai o brif sefydliadau’r Gymraeg.

“Mae sefyllfa ariannol pob un o’n partneriaid ni yn amrywio yn fawr iawn,” meddai.

“Beth sy’n drueni mewn gwirionedd yw fod y sefydliadau yna sydd wedi gwneud beth rydym ni wedi gofyn iddyn nhw wneud – hynny yw, lleihau eu dibyniaeth ar y wladwriaeth – wedi diodde’ fwya’.”

Aeth ati wedyn i dynnu sylw at Urdd Gobaith Cymru, gan ddweud bod y corff wedi bod mewn “sefyllfa enbyd” am fod refeniw’r gwersylloedd a chanolfannau wedi “ei dorri dros nos”.

Dywedodd fod y Llywodraeth wedi rhoi £3.1m i’r Urdd, a bod hynny wedi helpu i ddiogelu swyddi, ond rhybuddiodd ei bod yn “anochel y bydd mwy o broblemau yn y dyfodol”.

“Wrth gwrs, po hiraf mae’r canolfannau yna wedi cau, y mwya’ o broblemau ariannol fydd,” meddai.

“Ac wrth gwrs mi fydd hi’n anodd i ni fel Llywodraeth jest i gario ‘mlaen i roi arian mewn i sefyllfa heb wybod ble mae’r diwedd yn mynd i ddod.

“Ond wrth gwrs rydym ni wedi gwneud ein gorau i sefyll gyda nhw hyd yma.”

Achub yr Eisteddfod

Mi roddodd y Gweinidog sylw i’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd gan ddadlau y byddai wedi chwalu oni bai am ymyrraeth ariannol ei Llywodraeth.

“O ran yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd yna achlysur pan oedd hi’n edrych fel y byddai’n anodd iawn i’r ‘Steddfod genedlaethol barhau,” meddai.

“A phe na byddai’r Llywodraeth wedi camu i mewn, ni fyddai yna Eisteddfod Genedlaethol yn y dyfodol. Wrth gwrs mae’n rhan mor bwysig o’n hunaniaeth ni – o bwy ydym ni fel cenedl.

“Ac felly rhaid i ni roi blaenoriaeth i rai pethau. Ac mae hwn yn rhywbeth roeddem yn ystyried ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi blaenoriaeth iddi.”