Er gwaetha’r holl sôn am annibyniaeth i Gymru a’r Alban, mae’r Deyrnas Unedig yn fyw ac yn iach ac yn bell o fod ar ei wely angau.

Dyna farn Robin Millar, y dyn gymrodd drosodd fel Aelod Seneddol Aberconwy gan Guto Bebb yn dilyn etholiad Rhagfyr y llynedd.

A’r Tori o Fangor yw Cadeirydd ‘Grŵp Ymchwil yr Undeb’ yn San Steffan.