Bu farw Emyr Humphreys, un o gewri’r byd llên ac awdur ‘y nofel bwysicaf am Gymru yn yr iaith Saesneg’, yn 101 oed.

Fe’i ganed ym Mhrestatyn yn 1919, a’i nofel gyntaf oedd Little Kingdom (1946) ac aeth ymlaen i gyhoeddi dros 20 o nofelau i gyd. Yn 1953 enillodd y Somerset Maugham Prize am ei nofel Hear and Forgive, a’r Hawthornden Prize yn 1958 am ei glasur, A Toy Epic.