O gymharu ag ynysoedd yr Ascencion, mae’n debyg nad oedd awgrymu cael canolfan i geiswyr lloches ym Mhenalun, Sir Benfro, mor wirion â hynny.

Ond roedd yr un mor arwyddocaol wrth ddangos be ydi agweddau creiddiol Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd: trin pobol ddi-rym fel anifeiliaid a gweithredu fel pe na bai datganoli wedi digwydd erioed … neu ddim o’r diwygiadau graddol sydd wedi bod ers creu’r Swyddfa Gymreig yn 1964.