Hen stori yw hi bellach bod Boris wedi llenwi ei gabinet gyda gwleidyddion gwan, er mwyn gallu eu rheoli, eu tawelu, a “cyflawni Brexit”.

A thra bo’r cabinet – at ei gilydd – yn llawn cŵn rhech, y si yw mai Michael Gove, Gweinidog y Cabinet, sydd bellach yn rhannu’r gwir rym gyda Dominic Cummings, prif ymgynghorydd hollbwerus y Prif Weinidog.

A’r aelod diweddara’ o’r cabinet cŵn rhech i gael ar ddeall mor ddibwys yw ei rôl, yw Ysgrifennydd Cymru.