Enillydd Gwobr y Cyfeillion eleni yw Seran Dolma o Benrhyndeudraeth, a hynny am ei syniad am stori wedi ei gosod yn y dyfodol agos, Y Nendyrau.

Dyfarnwyd y wobr iddi hi, mewn cystadleuaeth “gref”, am y ddwy bennod agoriadol a chrynodeb o’r plot yr oedd wedi eu hanfon at y beirniaid y llynedd. Bu’n ffodus i gael lle ar gwrs mentora Llenyddiaeth Cymru fis Chwefror eleni, ac mae bellach wedi sgrifennu 22 pennod o’r nofel.