Mae Gweinidog y Gymraeg wedi gwrthod yr honiad bod Llywodraeth Cymru yn gwneud dim byd i fynd i’r afael â phroblem tai haf.

Daeth effaith ail gartrefi ar rannau o Gymru yn dipyn o bwnc llosg dros y misoedd diwethaf, gyda Chymry’r Fro Gymraeg yn ei chael hi’n anodd fforddio tai yn eu milltir sgwâr.

Ac wrth i ail don o goronafeirws ledu trwy wledydd Prydain, mae’r awydd am ail gartrefi tu allan i’r dinasoedd mawr wedi cynyddu, gan waethygu’r sefyllfa.