Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu camau a fydd yn ei gwneud hi’n anoddach i berchnogion tai haf hawlio arian coronafeirws.

Yng Nghymru mae busnesau sydd yn cyflogi llai na naw o bobol yn medru ceisio am grantiau gwerth £10,000 fel rhan o becyn £1.1bn y Llywodraeth.

A’r pryder oedd bod perchnogion tai haf – y rheiny sy’n talu treth busnes yn lle treth y cyngor – yn medru ceisio am yr arian yma.

Cafodd y sefyllfa ei feirniadu’n hallt, ai alw’n “gwbl anfoesol”, ond bellach mae Llywodraeth Cymru wedi newid llymhau’r canllawiau i hawlio’r arian.

Cyngor Gwynedd yn “falch”

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, wedi dweud nad yw’r Cyngor yn “cytuno gydag union eiriad y newidiadau” ond eu bod yn “hyderus” bydd y geiriad newydd yn gwneud y job.

“Fel Cyngor rydym yn falch bod y gweinidog wedi gwrando arnom ac wedi derbyn ein dadleuon,” meddai. “O’r herwydd ni fydd y pwrs cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i gyfoethogi’r rhai hynny sydd eisoes yn defnyddio rheolau Llywodraeth Cymru i osgoi talu trethi ar ail gartrefi.

“Wrth gwrs, yn wahanol i ail gartrefi, mae busnesau gosod unedau gwyliau gwirioneddol yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn yr arian yma, a byddwn yn eu hannog i gyflwyno cais i’r Cyngor os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.”

Y newidiadau

Yng ngeiriau Mark Drakeford, y Prif Weinidog, bellach rhaid i berchennog ail gartrefi brofi bod “cyfran resymol” o’i hincwm yn deillio o’r adeilad.

Hefyd rhaid profi bod yr adeilad yn cael ei rhentu am 140 diwrnod y flwyddyn. “Dw i wir ddim yn credu bod hynna’n afresymol,” meddai’r Prif Weinidog wrth annerch y cyfarfod llawn dydd Mercher.

Mae tua 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd – mwy nag unrhyw sir arall yng Nghymru – ac roedd y dyfalu y gallai rhwng £15m a £18m gael ei ryddhau i berchnogion ail gartrefi dan yr hen drefn.