Mae cyrff a mudiadau o bob rhan o Gymru’n nodi Diwrnod Aer Glân heddiw (dydd Iau, Hydref 8).

Mae Diwrnod Aer Glân fel arfer yn cael ei gynnal ym mis Mehefin, ond fe gafodd ei ohirio eleni oherwydd y pandemig coronafeirws.

Er mai cyfres o ddigwyddiadau ar-lein fydd yn cael eu cynnal, eglura Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ei bod hi’n awyddus i’r diwrnod gael ei gynnal eleni.

“Rwy’ felly yn ddiolchgar iawn i bob mudiad a chorff cyhoeddus sy’n cymryd rhan yn ddigidol – boed trwy droi at y cyfryngau cymdeithasol i sôn am eu gwaith gwella ansawdd aer neu trwy gymryd rhan mewn gweminarau ac ati,” meddai.

“Yn ystod y cyfnod clo, dewisodd llawer o bobl weithio gartref neu gerdded neu feicio i’r gwaith.

“Arweiniodd hynny at ostyngiad ar gyfartaledd o 36% yn lefelau NO2 y cyfnod.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r cyhoedd am wneud y newidiadau hyn, ac rydyn ni am i’r newidiadau hyn bara ar ôl y cyfnod clo ac ymhell i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld 30% yn gweithio o adref yn y dyfodol.

Rhwydwaith drafnidiaeth gynaliadwy

Wrth nodi Diwrnod Aer Glân, mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn dathlu eu llwyddiannau o ran lleihau eu hôl troed carbon.

Mae’r rheilffyrdd yn cyfrannu 1% o allyriadau carbon trafnidiaeth Cymru.

Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gostyngodd ei allyriadau 6.27%.

“Mae’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yn rhoi llwyfan ardderchog i ni adeiladu arno dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni barhau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru sy’n wirioneddol gynaliadwy ac sy’n gweithio i bobol ac i’r blaned,” meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru.

Y Ceidwadwyr am i bleidiau gydweithio

Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi amlinellu pwysigrwydd eu Deddf Aer Glân i Gymru arfaethedig.

“Mae’r pandemig wedi dod â ffocws craff i iechyd ein cenedl,” meddai Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lygredd Aer.

“Mae’n gliriach nag erioed o’r blaen bod Deddf Aer Glân yn anghenraid i Gymru.”

Mae’r angen am Ddeddf Aer Glân hefyd yn cael ei gydnabod gan Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydain Cymru.

“Er ein bod yn falch fod pleidiau eraill yn cydnabod rheidrwydd Deddf o’r fath, rydym yn gwybod y bydd yn cymryd gwaith trawsbleidiol a chydweithredol gan yr holl Aelodau i wneud iddo ddigwydd, a byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn cyflawni hyn.”

Daw hyn wedi i Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, gadarnhau yr wythnos hon y bydd San Steffan yn ceisio adfer cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru’r M4 o amgylch Casnewydd.

Mae’r cynllun eisoes wedi ei wrthod gan Lywodraeth Cymru gan fod yr “effeithiau amgylcheddol yn gorbwyso ei fanteision”.