Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfyngiadau tebyg i’r hyn sydd wedi eu cyflwyno yn yr Alban.

Cyhoeddodd Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, brynhawn heddiw (Hydref 7) y byddai mwyafrif o’r wlad yn wynebu cyfyngiadau llymach.

Rhybuddiodd, heb weithredu, bod yr Alban mewn perygl o “ddychwelyd i lefel brig yr haint cyn diwedd y mis”.

Bydd rhaid i dafarndai a bwytai mewn 5 ardal wahanol, gan gynnwys yng Nghaeredin a Glasgow, gau tan Hydref 25 – ond bydd y busnesau hyn yn cael parhau i ddosbarthu bwyd.

Bydd dim hawl gan fusnesau trwyddedig mewn rhannau eraill o’r Alban werthu alcohol dan do yn ystod yr un cyfnod.

‘Dyddiau nesaf yn dyngedfennol i Gymru’

“Mae’r cyfyngiadau newydd sy’n dod i rym yn yr Alban o ddydd Gwener yn dangos cynnydd sylweddol yn yr angen am gyfyngiadau lleol, a ledled yr Alban, i fynd i’r afael ag achosion”, meddai Adam Price.

“Yn y cyfamser, heddiw ym mhob ardal yng Nghymru mae cynnydd wedi bod mewn achosion – y mwyaf a gofnodwyd erioed mewn un diwrnod.

“Ar hyn o bryd, mae mwy o bobol mewn unedau gofal dwys yng Nghymru nag yn yr Alban a mwy o bobol yn yr ysbyty yn ddiweddar gyda Covid-19 yng Nghymru nag yn yr Alban.

“Mae’r dyddiau nesaf yn mynd i fod yn dyngedfennol yng Nghymru ac efallai y bydd angen i ni dynnu’r llinyn argyfwng hwnnw, fel y mae llywodraeth yr Alban eisoes wedi penderfynu ei wneud.

“Does dim opsiynau di-risg i unrhyw Lywodraeth, ond y risg fwyaf oll yw oedi.”

Cofnodwyd 1,054 o achosion newydd o’r feirws yn yr Alban yn ystod y 24 awr diwethaf.

Cofnodwyd 752 yn rhagor o achosion o Covid-19 yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod.

Cyfyngiadau eraill yn yr Alban

Er nad oes cyfyngiadau teithio wedi ei rhoi mewn lle yn yr ardaloedd hyn yn yr Alban, mae pobol yn cael eu hannog i beidio teithio y tu hwnt i’w byrddau iechyd eu hunain.

Bydd neuaddau snwcer, canolfannau bowlio dan do, casinos a neuaddau bingo yn cau yn yr ardaloedd hyn am bythefnos o Hydref 10.

Bydd digwyddiadau byw awyr agored hefyd yn cael eu gwahardd a bydd chwaraeon cyswllt ac ymarferion grŵp dan do ar gyfer pobol 18 oed a hŷn yn cael eu hatal am yr un cyfnod.