Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi ail-drydar beirniadaeth o gyfyngiadau lleol Llywodraeth Cymru.

Roedd y trydariad gan gyflwynydd Fox News Laura Ingraham yn rhybuddio y byddai’r Unol Daleithiau fel Cymru o dan arweiniad Joe Biden.

“Pobol Cymru ddim yn gwrando ar gyngor Donald Trump i ddelio â’r coronaferiws”

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi beirniadu Donald Trump, gan ddweud ei fod yn gobeithio bod pobol Cymru yn diystyru ei gyngor.

“Dw i’n gobeithio bod pobol ddim yn gwrando ar gyngor Donald Trump i ddelio â’r coronaferiws,” meddai.

Dywedodd ei fod yn credu bod pobol yng Nghymru yn deall fod y feirws yn “fygythiad difrifol i iechyd cyhoeddus.”