Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd yn dweud bod morâl staff yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn “eithriadol o isel” a bod yna “ddiffyg hyder” yn arweinyddiaeth y pennaeth a’r llywodraethwyr.

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i weld gan y Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol, hefyd yn awgrymu bod yna bryder ynghylch dyfodol yr ysgol uwchradd ym Mhenygroes ger Caernarfon.

Cafodd yr adroddiad, o fis Chwefror eleni, yn dilyn pryderon am yr ysgol sydd ag oddeutu 400 o ddisgyblion.

Mae’r adroddiad yn dweud bod:

  • cwynion, lefelau absenoldeb uchel a thrafferthion penodi a rheoli staff llanw wedi arwain at forâl “eithriadol o isel” ymhlith staff.
  • staff ddim yn deall gweledigaeth y pennaeth a blaenoriaethau’r ysgol – nodwyd hefyd bod angen adfer hyder yn arweinyddiaeth y pennaeth.
  • aelodau o staff ofn rhai disgyblion ac yn teimlo bod disgyblion trafferthus o ysgolion eraill yn cael ei symud i’r ysgol.
  • aelodau o staff yn parhau i fod yn “bryderus” am y sefyllfa, er bod ymddygiad disgyblion wedi gwella yn ddiweddar.

Oherwydd diffyg beirniadaeth o uwch arweinwyr yn ystod absenoldeb diweddar y pennaeth mae’r adroddiad hefyd yn argymell i Gyngor Gwynedd ddarparu mwy o arian a chryfhau rôl llywodraethwyr i ddwyn uwch arweinwyr i gyfrif.

Cynllun gwella ar waith

Mewn datganiad ar y cyd, mae’r ysgol ac Awdurdod Addysg Gwynedd wedi cadarnhau fod cynllun gwella ar waith yn yr ysgol ers mis Chwefror:

“Yn yr wyth mis ers cyflwyno’r adroddiad, mae Corff Llywodraethol Ysgol Dyffryn Nantlle, y pennaeth, yr Awdurdod Addysg Leol a GwE (y gwasanaeth cymorth ysgolion rhanbarthol) wedi datblygu a chytuno ar gynllun gweithredu manwl i ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad.

“Mae’r gwaith hwn eisoes wedi cychwyn ac mae’r ysgol yn canolbwyntio ar gyflawni gwelliannau ac ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad eleni fel rhan o Gynllun Datblygu’r Ysgol.”

Cefndir

Cafodd Ysgol Dyffryn Nantlle ei rhoi dan fesurau arbennig yn 2015.

Er nad yw’r ysgol bellach dan fesurau arbennig mae wedi ei rhoi yng nghategori coch system raddio ysgolion Llywodraeth Cymru.

Yn 2018 disgrifiodd cynrychiolwyr undebau addysg UCAC, NASUWT Gwynedd a NEU Gwynedd y sefyllfa yn yr ysgol fel un “difrifol”.

Mae golwg360 hefyd ar ddeall fod rhai rhieni yn dewis gyrru eu plant i ysgolion cyfagos yn hytrach nag Ysgol Dyffryn Nantlle.