Er bod hi’n gyfnod digon dyrys i fusnesau bach a mawr y byd, nid yw’r sefyllfa wedi atal tri busnes newydd yng Nghymru rhag agor eu drysau am y tro cyntaf…

Mae’r Gymraes, Alana Spencer o Aberystwyth yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonom, wedi iddi ennill y deuddegfed gyfres o’r Apprentice yn 2016 a gadael argraff dda ar Alan Sugar gyda’i busnes chacennau ‘Ridiculously Rich by Alana’.

‘Ridiculously Rich by the Sea’

Erbyn hyn, mae ganddi brosiect newydd sbon ar y gweill, sydd wedi ei leoli yn Harbwr y dref yn Aberystwyth. Mae’r caffi, a elwir yn ‘Ridiculously Rich by the Sea’ yn cymryd lle’r hen Bysgoty, gyda’r bwriad o gynnig amrywiaeth o gynhyrchion sydd yn addas i dref lan-môr… megis hufen ia ac wrth gwrs, digon o gacennau!

Er ei bod yn cydnabod mewn neges ar ei chyfrif Twitter ei bod hi’n amser eithaf ansicr i fod yn cychwyn busnes newydd, mae’n teimlo bod ganddi’r gefnogaeth sydd ei hangen i fynd amdani.

Wrth drafod y datblygiad hwn, dywed cynghorydd ardal Rheidol, Aberystwyth Endaf Edwards:

“Dwi’n croesawu’r datblygiad hwn, gan ei fod yn datblygu lle sydd yn wag ar hyn o bryd. Hefyd, mae’n braf gweld person ifanc yn cymryd drosodd yr adeilad. Gobeithio bydd Arglwydd Sugar yn ymweld yn fuan!”

Caffi newydd sbon ar hen safle tafarn y Bedol ym Methel

Yn y gogledd, mae caffi newydd sbon o’r enw ‘Perthyn’ ar fin agor ar hen safle tafarn y Bedol ym Methel.

Dwy chwaer sydd tu ôl i’r fenter, sef Nia ac Elen. Wrth drafod eu gobeithion ar gyfer y caffi dywed Nia:

“Be odda ni isio o’r cychwyn oedd gallu cynnig wbath newydd i bobl leol, rhywle iddyn nhw gael mynd i gymdeithasu, cael panad, cacen, gweld eu ffrindiau a chael amser iddyn nhw eu hunain.”

Er eu bod eisoes wedi sefydlu cwmni Perthyn pedair blynedd yn gynharach fel siop nwyddau ar-lein, penderfynwyd cymryd y cam hwn i ehangu’r fenter ddigidol, i greu menter gymunedol hefyd.

Wrth holi sut brofiad yw cychwyn menter newydd yng nghanol pandemig, dywed Nia:

“’Da ni ’di bod yn mynd o wythnos i wythnos ac wrth weld rhifau Covid yn cynyddu, ar adegau, mi oedden ni’n meddwl, yda ni’n neud y peth iawn? Ond drwy fod yn ofalus, ’da ni’n gobeithio bydd y caffi yn le i bobl gael gweld ei gilydd eto ac yn rwla gallwn ni fwynhau ar ddiwedd hyn i gyd.”

Mae’r chwiorydd yn bwriadu treialu agor y caffi am dri diwrnod yr wythnos, gyda’r gobaith o ehangu ar eu horiau agor yn ogystal â’r nwyddau sydd ar gael i’w prynu yn y dyfodol agos.

“Mae o wedi bod yn waith caled ac yn gostus ond rŵan bod ni’n barod i agor ac mae’r lle union fel oedden ni isio iddo fo fod, mae o’r teimlad gorau’r byd!”

Tŷ Winsh, Caernarfon

Busnes sydd eisoes wedi agor yng nghanol y pandemig yw Tŷ Winsh yng Nghaernarfon, o dan reolaeth Pat ac Alwyn.

Mae’r caffi newydd, sydd yn cynnig bwydlen eang o brydau ysgafn, brechdanau a chacennau ffres, wedi agor ers bron i ddeufis bellach ac yn mynd o nerth i nerth.

“Mi oedden ni’n poeni yn arw y buasai’n dawel yma ond mi agorwyd ar y 10fed o Awst ac mi oedden ni’n brysur iawn” Medd Pat, “Oni’n teimlo yn reit galonnog bod hi’n mynd i fod yn llwyddiannus ac mae hi wedi bod, hyd yn hyn.”

Er y llwyddiant cynnar hwn, soniodd fod pethau wedi distewi i raddau dros yr wythnosau diwethaf.

“Dani’n gobeithio eith pethau ddim yn waeth” Eglurai, “mae Covid yn boen i unrhyw berson sydd yn rhedeg busnes, ond, os wyt ti’n cynnig gwasanaeth a chynnyrch da, mae pobl leol siŵr o fod yn gefnogol.”

Yn ôl un cwsmer yn y caffi:

“Mae hi’n le bach braf yma, Cymreig, sydd yn bwysig, ac mae yma groeso bob amser. Maen nhw’n ddewr iawn i fod yn mentro yn yr adeg sydd ohoni, ond diolch amdanyn nhw!”

Ymhlith yr holl ofid ac ansicrwydd, mae’n braf gweld cwmnïau bach newydd yn mentro, ac yn llwyddo, gan brofi nad yw’r darlun yn ddu i gyd.