Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, wedi ymosod ar “gyfreithwyr hawliau dynol adain chwith” gan eu cyhuddo o amharu ar y system gyfiawnder.

Mae ffigyrau o fyd y gyfraith wedi galw’r ymosodiad yn “gywilyddus” ac yn “ofidus dros ben.”

Ategodd Boris Johnson rethreg yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn ei araith yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr gan lansio’r frwydr ddiweddaraf rhwng y Llywodraeth a’r system gyfiawnder.

“Rydym yn cefnogi’r heddlu ac yn gwarchod y cyhoedd wrth newid y gyfraith i atal troseddwyr rhywiol a threisgar rhag cael eu rhyddhau o’r carchar yn gynnar,” meddai.

Aeth ymlaen i ddweud bod y Llywodraeth yn “rhwystro’r holl system gyfiawnder rhag cael ei nadu gan beth fyddai’r Ysgrifennydd Cartref yn alw’n gyfreithwyr hawliau dynol adain chwith.”

“Cywilyddus”

Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Cysgodol Llafur, David Lammy, wedi galw sylwadau Boris Johnson yn “gywilyddus” tra bod arweinwyr eraill yn y maes hefyd wedi taro’n ôl.

Dywedodd Amanda Pinto QC, Cadeirydd y Bar Council: “Mae’n anghredadwy a gofidus bod ein Prif Weinidog yn esgusodi ac yn ymestyn ymdrechion i wleidydda ac ymosod ar gyfreithwyr, a hynny am wneud eu swyddi er budd y cyhoedd.

“Mae cyfreithwyr, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cyflogi gan y Llywodraeth, yn hanfodol er mwyn rhedeg ein system gyfiawnder, sydd wedi ei thanariannu.

“Eu dyletswydd nhw yw i’w cleientiaid a’r llys, nid i chwarae gemau gwleidyddol.”

Rhybuddiodd y Gymdeithas Gyfraith bod “hyrddio sarhad at gyfreithwyr” yn peri risg o gam-drin llafar a corfforol yn erbyn cyfreithwyr.

“Dim syndod”

Mae Adam Wagner, cyfreithiwr hawliau dynol gyda Doughty Street Chambers bod i “ddim yn syndod” gweld y Prif Weinidog yn “cychwyn ffrae gyda chyfreithwyr” oherwydd bod “ei lywodraeth yn colli yn y llysoedd pan mae’n ymddwyn tu allan i’r gyfraith.”

“Mae’n rhaid i bobol ddeall mai beth sydd o dan sylw mewn difrif yw nad ydi’r Llywodraeth yn hoffi rhai cyfreithiau, megis cyfreithiau hawliau dynol, neu’n teimlo na ddylai orfod eu dilyn, ac mae nawr yn gwyro oddi wrth y ffaith syml honno drwy ymosod ar gyfreithwyr sydd ddim ond yn gwneud eu swyddi,” meddai.

Y frwydr rhwng y Llywodraeth â’r system gyfiawnder hyd yma

Dechreuodd brwydr y Llywodraeth â’r yn ystod y dadleuon dros Brexit, pan lwyddodd yr ymgyrchydd Gina Miller i sialensu’r Llywodraeth dros hawl y prif weinidog bryd hynny, Theresa May, i lansio Erthygl 50 heb bleidlais yn y Senedd.

Yna yn 2019, dyfarnodd y Goruchaf Lys bod penderfyniad Boris Johnson i ohirio’r Senedd yn anghyfreithlon, gan danio amheuon y Ceidwadwyr weithredoedd barwnol

Fe wnaeth y ddadl gyda’r farwniaeth ddwysáu ar ol i benderfyniad gan y Llys Apêl atal 25 o bobl rhag cael eu halltudio i Jamaica.