Mae Llywodraeth Cymru “wrthi’n ystyried” a oes angen cyflwyno cyfyngiadau llymach ym Mangor – ac o bosib Gwynedd gyfan, yn ôl y Prif Swyddog Meddygol.

Ar ddechrau’r wythnos mi wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru rannu eu pryderon am gynnydd mewn nifer achosion covid-19 yng Ngwynedd.

Ac mae llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wedi cadarnhau wrth golwg360 bod y feirws yn “bresennol ymysg [eu] myfyrwyr” a bod “mesurau hunanynysu ar waith”.

Wrth annerch y wasg brynhawn heddiw mi wnaeth Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, ddweud bod y Llywodraeth yn cadw llygad ar y sefyllfa yn y gogledd-orllewin.

“Rydym wrthi’n ystyried y sefyllfa ym Mangor ar hyn o bryd,” meddai. “Mae Gwynedd yn gyffredinol, fel ardal cyngor, yn cael ei hystyried.

“Mae tîm rheoli achosion yn cwrdd yn ddyddiol fyny fan’na, ac yn darparu adroddiadau ac awgrymiadau i Lywodraeth Cymru. Felly rydym yn edrych ar hynny’n ofalus.

“Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ac yn aros i weld pa fath o gymorth yr hoffan nhw oddi wrth Llywodraeth Cymru – ac oes angen hynny ar lefel Bangor neu ar lefel y cyngor,” meddai wedyn.

Dywedodd hefyd bod “llawer o’r cynnydd mewn achosion yn gysylltiedig yn benodol â myfyrwyr” y ddinas.

Cyfyngiadau a chanolfannau

Yn ôl ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru (Medi 27 – Hydref 3) mae 73.1 achos i bob 100,000 yng Ngwynedd.

Mae cyfyngiadau wedi eu cyflwyno yng ngweddill gogledd Cymru gyda chanran is na hyn. 46.1 achos ymhlith pob 100,000 person oedd y ffigur yn Conwy pan aeth dan glo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yr wythnos hon y bydd canolfan brofi yn agor ym Mangor ymhen pythefnos.

Ar hyn o bryd dim ond dau safle sydd yn agored i’r cyhoedd yn y gogledd, sef canolfannau profi Llandudno a Glannau Dyfrdwy.

Conwy yn cwyno

Mae sir Conwy eisoes dan glo, ac mae Arweinydd y Cyngor Sir, Sam Rowlands, wedi galw am ddileu y rheolau sydd yn gwahardd pobol rhag deithio i mewn ac alla o’r ardal.

“Dyw’r cyfyngiadau ddim wedi eu seilio ar unrhyw dystiolaeth”, meddai, ac mae’n ymddangos yn “hollol anghymesur â realiti’r sefyllfa”.

Wrth drafod y pryderon yma yn y gynhadledd i’r wasg, awgrymodd Frank Atherton y gallai’r Llywodraeth fod yn hyblyg gyda’r cyfyngiadau yng Nghonwy.

“Ym mhob man lle mae cyfyngiadau lleol wedi dod i rym rydym wedi trafod ag awdurdodau lleol,” meddai. “Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gorfodi cyfyngiadau ar ardaloedd cynghorau.

“Does dim gyda ni safiad sy’n dweud bod yn rhaid i bob ardal dan glo fod yn union yr un peth. Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod â’r cyngor i weld os dyna yw’r peth mwya’ priodol i gael mewn grym.”