Bydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym yn siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint a Wrecsam yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Hydref 1).

Ar ôl 6 o’r gloch, fydd dim modd i bobol deithio i mewn nac allan heb fod ganddyn nhw esgus rhesymol – e.e gwaith neu addysg.

Mae’r fath rheolau eisoes wedi’u cyflwyno yn y de, a bydd y cam yn golygu bod 500,000 yn rhagor o drigolion Cymru dan glo.

Mae yn agos at ddwy filiwn o drigolion eisoes yn byw mewn ardaloedd lle mae’r cyfyngiadau yma mewn grym a hyd yma, mae’r rheolau ond wedi cael eu tynhau yn y de.

Eithriadau i’r rheol

O dan y cyfyngiadau, mae modd gadael eich sir, neu fynd i sir arall, am y rhesymau canlynol:

  • gweithio, os na fedrwch weithio o adref
  • darparu gofal
  • teithio i ddysgu
  • cystadlaethau neu hyfforddi athletaidd (safon élit)
  • darparu neu dderbyn cymorth brys
  • cyflawni ymrwymiad cyfreithiol
  • osgoi anaf, neu salwch; neu i ffoi rhag niwed

Rheolau eraill

Bydd modd teithio trwy’r ardaloedd sydd wedi’u cloi, felly bydd modurwyr yn dal i allu defnyddio’r A55 i fynd i Wynedd neu i Ynys Môn.

Bellach, fydd pobol yn y pedair sir ond yn cael ymgynnull dan do â phobol sydd yn byw â nhw. Mae hynny’n golygu bod ‘aelwydydd estynedig’ wedi dod i ben am y tro.

Bydd rheolau eraill yn parhau mewn grym, gan gynnwys y rheidrwydd i wisgo mygydau mewn siopau.

Achosion

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae Conwy wedi cyrraedd sefyllfa lle mae yna 46.1 achos ymhlith pob 100,000 person.

37.6 yw’r ffigwr yn Sir Ddinbych, 53.8 yn Sir y Fflint, a 43.4 yn Wrecsam.

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, roedden nhw wedi gobeithio gallu osgoi cyfnod clo lleol arall er gwaetha’r cynnydd mewn achosion.

Yn ôl Darren Millar, Aelod o’r Senedd yng Ngorllewin Clwyd, mae’r cyfyngiadau’n “ergyd ysgytwol i drigolion a busnesau” yn yr holl ardaloedd dan sylw, ac mae’n cwestiynu’r angen am gyfyngiadau.

Bu’n galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn “gwbl dryloyw” wrth amlinellu pam fod y cyfyngiadau wedi’u cyflwyno.

“Bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar fusnesau lleol hefyd, yn enwedig y rhai yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch,” meddai.

“Cafodd cwmnïau eu bwrw’n galed gan y cyfnod clo yn gynharach eleni a rwan maen nhw’n dechrau adfer, felly mae’n hanfodol eu bod nhw’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

“Dw i’n annog pobol i ddilyn y rheolau i gadw nifer yr achosion i lawr fel bod modd codi’r cyfyngiadau hyn cyn gynted â phosib.”

Bu Janet Finch-Saunders, sy’n cynrychioli Aberconwy, yn cwestiynu’r oedi o 48 awr rhwng cyhoeddi’r cyfyngiadau a’u cyflwyno, a bu Mark Isherwood yn galw am sicrwydd i bobol sydd wedi bod yn cysgodi rhag y feirws, gan alw am “ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus gref” gan Lywodraeth Cymru.