Bydd straeon cenhedlaeth Windrush Cymru yn cael eu clywed mewn arddangosfa ar-lein, fel rhan o weithgareddau ‘Hanes Pobol Dduon Cymru 2020’.

Fel rhan o arddangosfa ‘Windrush Cymru: dathlu bywydau a siwrneiau cenhedlaeth – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’, bydd y straeon yn canolbwyntio ar sut mae cenhedlaeth Windrush wedi dylanwadu a chyfoethogi bywyd Cymru.

Mae’r arddangosfa yn cael ei chynnal ar wefan Senedd Cymru, fel rhan o brosiect Treftadaeth Windrush Cyngor Hil Cymru, ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Roedd yn fwriad i arddangosfa Windrush Cymru deithio i wahanol ardaloedd o amgylch y wlad, ond mae’r cynnwys wedi ei addasu ar gyfer arddangosfa ar-lein.

Arddangosfa Windrush Cymru

Bydd yr arddangosfa yn rhoi cyfle i ddeg o unigolion adrodd hanes y daith a ddaeth â nhw neu eu teuluoedd i Gymru yn ystod y cyfnod o fewnfudo rhwng 1948 a 1988.

Daeth nifer o bobol o ynysoedd y Caribî i wledydd Prydain ar wahoddiad y llywodraeth, gan fod prinder llafur ar y pryd.

Ar long yr HMT Empire Windrush y cyrhaeddodd y grwpiau cyntaf o fewnfudwyr ym 1948, ac felly cyfeirir atyn nhw fel ‘cenhedlaeth Windrush’.

Windrush
Llong Windrush, a gludodd fewnfudwyr i wledydd Prydain yn 1948

Bydd eu straeon yn amlygu’r gwahanol lwybrau a ddaeth â phobol i Gymru yn ystod y cyfnod hwn, yn ein haddysgu am eu bywydau ar ôl iddyn nhw gyrraedd, yn trafod yr her o adeiladu bywyd newydd mewn gwlad wahanol, a’r dasg o chwilio am waith ac agwedd cymdeithas Cymru tuag atyn nhw ar y pryd.

Mae’r straeon yn dangos sut mae’r unigolion a’u teuluoedd wedi gadael eu hôl ar bob agwedd ar fywyd – trwy eu swyddi, eu gyrfaoedd, eu plant a’u cyfraniad i’r gymuned a’r diwylliant.

Mae’r arddangosfa yn agor heddiw (dydd Iau, Hydref 1), a bydd posib ei gweld drwy gydol mis Hydref.

Darlithoedd a thrafodaethau

Ynghyd â’r arddangosfa, roedd eu straeon yn sail i ddarlith gan yr hanesydd Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, a gafodd ei ffrydio neithiwr (nos Fercher, Medi 30), ac yn nodi diwrnod cyntaf Hanes Pobol Dduon Cymru.

Cafodd y ddarlith ei ffrydio ar sianel YouTube y Senedd am 7, a bydd ar gael i’w gwylio yn ôl wedi hynny.

Ar Hydref 23, bydd Senedd Cymru yn cynnal trafodaeth banel ddigidol am gyfraniad pobol o dras Affricanaidd ac Affro-Caribïaidd yng Nghymru.

Bydd y panel yn cynnwys cyfranwyr o wahanol sectorau ac o gefndiroedd eang.

“Trysor diwylliannol”

Denu sylw at y straeon a dangos eu bod yn rhywbeth sy’n berthnasol i Gymru yw nod Prosiect Treftadaeth Windrush Cyngor Hil Cymru.

Dywedodd Antonia Osuji o Gyngor Hil Cymru, sydd hefyd yn Swyddog Prosiect Windrush Cymru ei bod yn “anrhydedd anhygoel imi gael fy nghroesawu gan yr hynafiaid i wrando, a dogfennu straeon Cenhedlaeth Windrush o lygad y ffynnon”.

“Mae’r straeon yn gofnod hanesyddol ac yn drysor ddiwylliannol i’r genhedlaeth hŷn yn gystal â’r genhedlaeth iau,” meddai.

“Mae ymwybyddiaeth ac addysg am hanes, cyfraniadau a phresenoldeb pobol o dras Affro-Caribïaidd, ac yn wir holl genhedloedd y Gymanwlad, yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru, mor bwysig ac yn rhywbeth y dylem i gyd geisio ei hybu.”

“Cyfraniad amhrisiadwy i Gymru” 

Bydd straeon yr arddangosfa yn cael eu harchifo gan Amgueddfa Werin Cymru er mwyn cyfrannu at ffurfio darlun ehangach o fywyd Cymru.

“Mae cenhedlaeth Windrush a’u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i Gymru, ac rydym yn falch o weithio gyda Race Council Cymru a’r Senedd i adrodd straeon pwysig yr arddangosfa ar-lein hon,” meddai Sioned Hughes, Pennaeth Hanes Cyhoeddus ac Archeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

“Mae’n fraint gwrando, dysgu a chyfoethogi ein dealltwriaeth am brofiadau pob un o ddinasyddion Cymru, ac yn yr achos hwn, dathlu rôl annatod pobl o ddisgyniad Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd wrth ffurfio Cymru heddiw,” meddai Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru.