Fe fydd fformat dadleuon teledu yn ymgyrch arlywyddol yr Unol Daleithiau yn cael ei newid yn dilyn helynt ar ôl y ddadl gyntaf yn Ohio ddechrau’r wythnos hon.
Cafodd Chris Wallace, y cymedrolwr, broblemau wrth geisio cadw trefn ar yr Arlywydd Donald Trump a’i wrthwynebydd Joe Biden wrth iddyn nhw anelu sarhad ar ôl sarhad, ac weithiau ar draws ei gilydd.
Fe wnaeth Donald Trump dorri ar draws Joe Biden yn gyson yn ystod y noson, wrth i Chris Wallace ymbil arno i aros tan bod ei wrthwynebydd wedi gorffen siarad.
Fe wnaeth y ddwy ochr gytuno i’r rheolau cyn y ddadl.
Bydd y drefn newydd, sy’n cael ei thrafod ar hyn o bryd, yn dod i rym ar gyfer y ddadl nesaf.
Un posibilrwydd yw rhoi’r hawl i’r cymedrolwr ddiffodd meicroffôn y naill wrth i’r llall siarad, yn ôl un ffynhonnell.
Bydd y ddadl nesaf ar Hydref 15 ym Miami.