Dylai’r Swyddfa Gartref ymddiheuro wrth bobol Sir Benfro am eu “diffyg parch” wrth ddelio â chynlluniau i drosglwyddo ffoaduriaid yno, yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.

Mae gweinidogion yn ystyried llu o safleoedd a all fod yn gartref dros dro i 230 o ffoaduriaid, ac yn eu plith mae safle’r fyddin ym Mhenalun ger Dinbych-y-pysgod.

Mae’r mater eisoes wedi tanio llu o brotestiadau gyda rhai’n pryderu am y goblygiadau i’r ardal, ac eraill yn poeni nad yw cyflwr y safle yn addas i’r ffoaduriaid.

Yn sgil hyn i gyd, mae Dafydd Llywelyn wedi beirniadu’r Swyddfa Gartref am eu diffyg eglurder â phobol leol, ac am ddiffyg ymdrech i ddiogelu’r ffoaduriaid.

Mynnu ymddiheuriad  

“Ein hasiantaethau lleol – gan gynnwys yr heddlu – sydd wedi gorfod delio â goblygiadau’r penderfyniad anymarferol gan y Swyddfa Gartref,” meddai.

“Ac felly dw i’n gofyn am ymddiheuriad. Dyw’r ffordd yma o ddelio â’r mater ddim yn dderbyniol.

“Byddaf yn dal ati i fod yn rhan o’r datblygiadau diweddaraf, er mwyn cefnogi cymuned leol Penalun a Sir Benfro, ac i ofalu am yr unigolion bregus yma.”

Protestio

Nod yr adleoli yw lleddfu’r straen sydd ar adnoddau yn ne ddwyrain Lloegr.

Daeth y cynlluniau i’r amlwg bythefnos yn ôl a’r adeg honno, fe wnaeth pobol leol godi pryderon am oblygiadau’r cam i isadeiledd lleol ac i dwristiaeth.

Mae’r cyfan wedi esgor ar gryn brotestio, gyda rhai yn rhannu’r farn y dylai ffoaduriaid gael eu croesawu i orllewin Cymru – ond nid i safle milwrol.