Mae disgwyl i gyfyngiadau coronafeirws llym gael eu cyhoeddi yn Lerpwl a Glannau Mersi heddiw (dydd Iau, Hydref 1).

Mae lle i gredu bod gwleidyddion y ddinas wedi cyfarfod â Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, a bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn dilyn cyfarfod sydd wedi’i gadeirio gan y prif weinidog Boris Johnson.

Yn ôl Joe Anderson, Maer Lerpwl, mae e wedi cael gwybod y dylid disgwyl cyfyngiadau tebyg i’r hyn sydd mewn grym yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, lle mae gwaharddiad ar aelwydydd estynedig mewn llefydd cyhoeddus.

Cafodd 1,287 o achosion newydd eu cofnodi yn ystod yr wythnos hyd at Fedi 27 – sy’n gyfwerth â 258.4 o achosion ar gyfer pob 100,000 o bobol.

Y gyfradd yn Knowsley yw 261.8 ar gyfer pob 100,000 o bobol.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd cyfyngiadau teithio fel sydd yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, ond mae’n bosib y bydd rhaid i bobol gadw bwrdd er mwyn bwyta mewn bwytai, meddai Joe Anderson.

Mae gwleidyddion lleol yn galw am gymorth ariannol gan Lywodraeth Prydain, yn ogystal â chapasiti ychwanegol i gynnal profion, pe bai’r cyfyngiadau’n dod i rym.