Mae Alexei Navalny, arweinydd gwrthblaid Rwsia, wedi cyhuddo’r Arlywydd Vladimir Putin o’i wenwyno.

Fe ddaw wrth iddo barhau i wella yn yr ysbyty yn yr Almaen.

Bu ei gefnogwyr yn dweud ers tro mai’r arlywydd oedd yn gyfrifol am y digwyddiad, ond fe fu’r Kremlin yn gwadu hynny.

Cafodd Navalny ei gludo i’r ysbyty yn yr Almaen ddeuddydd ar ôl cael ei daro’n wael, a hynny’n groes i ddymuniadau’r llywodraeth, oedd yn awyddus iddo aros yn y wlad.

Treuliodd e 32 diwrnod yn yr ysbyty, a 24 ohonyn nhw mewn uned gofal dwys a dau ddiwrnod mewn coma yn Rwsia cyn cael ei symud i Berlin.

“Putin oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad,” meddai wrth y papur newydd Der Spiegel.

“Does gyda fi ddim fersiynau eraill o sut gafodd y drosedd ei chyflawni.”

Novichok

Daeth arbenigwyr yn yr Almaen i’r casgliad iddo gael ei wenwyno â Novichok, asiant nerfol a gafodd ei ddefnyddio i wenwyno Sergei a Yulia Skripal yng Nghaersallog (Salisbury) yn 2018.

Yn ôl Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, roedd yn ymgais i lofruddio Alexei Navalny, ac mae hi’n galw am ymchwiliad llawn gan Rwsia.

Ond mae Rwsia yn galw ar yr Almaen i rannu tystiolaeth feddygol o wenwyno, gyda’r Almaen yn dweud bod gan Rwsia dystiolaeth o’i gyfnod yn yr ysbyty hefyd.

Dydy canlyniadau profion annibynnol ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd i ba raddau y bydd e’n gwella o’i anafiadau.