Mae Madrid yn destun cyfnod clo lleol yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion o’r coronafeirws, ond mae ffrae rhwng awdurdodau lleol a llywodraeth y wlad ynghylch pwy ddylai fod yn cyflwyno’r cyfyngiadau.

Mae’r gyfradd ym mhrifddinas Sbaen ymhlith yr uchaf yn Ewrop, gyda 735 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth – sy’n ddwywaith y gyfradd genedlaethol.

Y cyfyngiadau

Fydd neb yn cael mynd i mewn i’r ddinas na gadael heblaw bod y daith yn un angenrheidiol, hynny yw ar gyfer addysg, gwaith a thriniaeth feddygol, ond nid ar gyfer gweithgareddau hamdden.

Bydd bariau a bwytai’n gorfod cau am 11 o’r gloch y nos yn hytrach nag 1 o’r gloch y bore, tra bydd parciau a meysydd chwarae’n cael eu cau.

Fydd dim hawl i bobol gyfarfod mewn grwpiau o fwy na chwe pherson.

‘Dim sail gyfreithiol’

Ond mae awdurdodau rhanbarthol yn dweud nad oes unrhyw sail gyfreithiol i’r cyfyngiadau sy’n golygu bod Llywodraeth Sbaen bellach yn gallu anwybyddu dymuniadau’r awdurdodau lleol.

Mae naw o ddinasoedd eraill yn yr un ardal yn Sbaen hefyd wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau.