Dylid rhoi “sylw brys” i ofynion ariannol y Llyfrgell Genedlaethol, yn ôl adroddiad gan banel annibynnol.

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, a bu’r panel annibynnol yn ymchwilio i sefyllfa’r Llyfrgell cyn yr argyfwng coronafeirws.

Mae’r adroddiad yn dweud bod incwm y Llyfrgell wedi cwympo gan 40% – mewn termau real – rhwng 2008 a 2019.

Hefyd bu’n rhaid cwtogi lefelau staff gan 23%.

Wrth ymateb i’r adroddiad, mae Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr y Llyfrgell, wedi galw ar wleidyddion o “bob plaid” i achub y sefydliad.

Casgliadau

Roedd y Llyfrgell yn gweithredu ag incwm o £9.6m yn 2018/19, ond roedd yn wynebu costau sylweddol yn gysylltiedig â gwaith cynnal a chadw, isadeiledd technoleg gwybodaeth, a chostau pensiynau.

Yn aml, roedd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cyllid a fyddai’n para am gyfnod o 12 mis yn unig – dim pellach – yn ôl yr adolygiad.

Am fod y cyllid ond yn para am gyfnod byr, roedd hynny’n tanseilio gallu’r Llyfrgell i ymrwymo i wella’i sefyllfa a’i gwasanaethau, yn ôl yr adroddiad.

Fe wnaeth y panel gynnig peth beirniadaeth o fwrdd ymddiriedolwyr y Llyfrgell, gan alw am well hyfforddiant ac am aelodau o gefndiroedd sy’n fwy amrywiol.

Cri am gymorth

Yn ôl adroddiadau, mae Pedr ap Llwyd yn pryderu y bydd 30 swydd yn gorfod cael eu torri pe bai’r adolygiad yn cael ei anwybyddu.

“Chwi wleidyddion – o bob plaid – achubwch eich Llyfrgell Genedlaethol,” meddai ar Twitter.

Addo “cydweithio”

Mae Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wedi croesawu sylwadau’r panel, ac wedi addo y bydd yna ymdrech i ddatrys y sefyllfa.

“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn sefydliad diwylliannol pwysig y mae’n hollbwysig ein bod yn sicrhau ei pharhad a hefyd sicrhau ei bod yn parhau’n berthnasol i Gymru gyfan,” meddai.

“Mae’r casgliadau hyn yn cynnig meysydd y mae angen i’r Llyfrgell a Llywodraeth Cymru roi sylw iddynt – a bydd y Llywodraeth a’r Llyfrgell yn cydweithio er mwyn sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau’n gadarn ac yn addas i’w diben mewn cyfnod eithriadol o heriol i’n holl gyrff a noddir.”