Mae Llywodraeth Prydain yn dweud y byddan nhw’n ymateb i lythyr yr Undeb Ewropeaidd yn amlinellu camau cyfreithiol tros Brexit “yn y man”.Yn ôl Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, mae gan Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fis i ymateb i’w llythyr.

Mae Llywodraeth Prydain dan y lach am gyflwyno Bil y Farchnad Fewnol, sy’n mynd yn groes i’r Bil Ymadael ac yn torri cyfreithiau rhyngwladol a gafodd eu cytuno fel rhan o’r broses Brexit.

“Rydym wedi gwahodd ein ffrindiau Prydeinig i ddileu rhannau problematig eu Bil Marchnad Fewnol drafft erbyn diwedd mis Medi,” meddai.

“Mae’r bil drafft hwn, yn ei hanfod, yn torri gorfodaeth ffydd da a gafodd ei gosod yn y Bil Ymadael.

“Ymhellach, pe bai’n cael ei fabwysiadu, bydd yn gwbl groes i brotocol Iwerddon / Gogledd Iwerddon.”Aeth y dyddiad cau heibio ddoe, a chafodd y rhannau problematig mo’u dileu.

“Felly bore heddiw, mae’r comisiwn wedi penderfynu anfon llythyr hysbysiad swyddogol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Dyma gam cyntaf y weithdrefn [torri dyletswydd].”