Aelod Seneddol Llafur Aberogwr yw’r diweddaraf i godi pryderon am bobol yn teithio i Gymru ar wyliau yn ystod cyfnodau clo lleol yn Lloegr.
Fe wnaeth Chris Elmore dynnu sylw at hawl pobol o ardaloedd sydd dan gyfyngiadau llym yn Lloegr i ddod i Gymru, er na all pobol yng Nghymru deithio i ardaloedd lle mae cyfyngiadau nac allan ohonyn nhw.
“Yn Lloegr, mae’r bobol hynny mewn llefydd cyfyngedig yn gallu teithio i Gymru ar wyliau,” meddai.
“Yng Nghymru, os ydych chi mewn ardal gyfyngedig fel fy etholaeth i, does dim hawl gyda chi deithio i fynd ar wyliau.”
Fe wnaeth e ofyn wedyn i Penny Mordaunt neu Michael Gove i drafod y sefyllfa gyda Boris Johnson, fel y mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi’i wneud, “i ddweud wrth bobol yn Lloegr os ydych chi’n byw mewn ardal gyfyngedig, plis peidiwch â mynd ar wyliau, plis peidiwch â theithio i Gymru, plis peidiwch â lledaenu’r feirws”.
Dywedodd Penny Mordaunt y byddai’n crybwyll y mater, ond mai “un o fanteision cydweithio rhwng y pedair gwlad yw ein bod ni’n ceisio cymaint o gysondeb â phosib ac yn rhagweld un set o reolau a’u heffaith ar gymunedau sy’n byw ger y ffiniau hynny”.
Nid Chris Elmore yw’r cyntaf i ofyn i Lywodraeth Prydain wneud rhywbeth am yr anghysondeb o ran rheolau teithio.