Dylid dirwyo Jeremy Corbyn am dorri’r “rheol chwe pherson” meddai Dr Rosena Allin-Khan, sydd yn aelod cabinet cysgodol yn San Steffan.
Yn ôl papur newydd y Sun, bu cyn-arweinydd y Blaid Lafur mewn cinio gydag wyth person arall, gan dorri un o reolau coronafeirws Llywodraeth Prydain.
Daeth cyfreithiau newydd i rym ar Fedi 14 sy’n gwahardd mwy na chwe pherson rhag cyfarfod, ac yn rhoi pwerau i’r heddlu wahanu cyfarfodydd o’r fath a rhoi dirwyon o hyd at £200 i’r unigolion.
Mae’r papur newydd yn adrodd bod Jeremy Corbyn wedi ymddiheuro am y cinio a ddigwyddodd, yn ôl y sôn, ar Fedi 26.
“Dylai unrhyw un sy’n torri’r gyfraith dalu dirwy”
Wrth siarad gyda’r Times Radio heddiw (dydd Iau, Hydref 1), dywedodd Dr Rosena Allin-Khan “wrth gwrs y dylai Jeremy Corbyn dalu dirwy”.
“Dylai unrhyw un sy’n torri’r gyfraith dalu dirwy,” meddai.
“Rwy’n falch ei fod wedi ymddiheuro. Dyna’r peth iawn i’w wneud.
“Mae’n ymddangos ei fod yn y cinio a bod rhagor o bobol wedi cyrraedd, a phan gyrhaeddodd mwy na chwech, dylai Jeremy Corbyn fod wedi gadael.
“Ond rwy’n falch o’i weld yn cymryd cyfrifoldeb.
“Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw pobol fel Dominic Cummings na thad Boris Johnson, a gafodd ei weld mewn siop heb fasg, yn cymryd dim cyfrifoldeb.”
Ychwanegodd fod “gennym ni gyd gyfrifoldeb i gadw at y rheolau.”
“Pobol yn gwneud camgymeriadau”
Pan gafodd George Eustice, Gweinidog yr Amgylchedd, ei holi a ddylid dirwyo Jeremy Corbyn, dywedodd y “bydd yr heddlu yn cymryd y camau cywir”.
“Mae’r rheol chwe pherson yn ei lle, a gellid ei ddirwyo,” meddai.
“Ond bydd yr heddlu yn mynd i’r afael â’r mater mewn ffordd deg.”
Pwysleisiodd fod y “rheol chwe pherson yn ei lle, ac mae’n cael ei gorfodi fel y dylai”.
“Ond, nid yw hynny’n golygu dirwyo pawb sy’n ei dorri,” meddai wedyn.
“Weithiau gall fod yn rhybudd, mae pobol yn gwneud camgymeriadau ac yn ymddiheuro.”
Helyntion Stanley Johnson a Dominic Cummings
Mae Stanley Johnson, tad prif weinidog Prydain, wedi dweud ei fod yn “hynod sori,” wedi i luniau ohono mewn siop heb fasg ymddangos ddydd Mawrth (Medi 29).
Ychydig fisoedd yn ôl, roedd adroddiadau yn awgrymu bod cynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings, wedi torri rheolau Llywodraeth Prydain pan deithiodd at ei rieni yn Durham lle’r oedd yn gwella o symptomau’r feirws.
Ar ôl teithio’n ôl i Lundain, aeth ei wraig a’i fab yn sâl.
Amddiffynnodd Dominic Cummings ei hun mewn cynhadledd i’r wasg, gan ddweud nad oedd yn difaru mynd i Durham a’i fod yn credu iddo ymddwyn yn “rhesymol”.