Mae Dominic Cummings, prif ymgynghorydd Boris Johnson, dan ragor o bwysau i ymddiswyddo ar ôl iddi ddod i’r amlwg iddo deithio i Durham ddwywaith, er gwaethaf cyfyngiadau teithio’r coronafeirws.
Ac mae prif weinidog Prydain hefyd dan bwysau i’w ddiswyddo, ond mae’n dweud ei fod e’n ei gefnogi’n llwyr.
Fe ddaeth i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf fod Dominic Cummings wedi teithio mwy na 260 o filltiroedd i ynysu gyda’i deulu, wrth i gyngor Llywodraeth Prydain rybuddio pobol na ddylen nhw deithio’n bell.
Yn ôl Dominic Cummings, fe benderfynodd e deithio er mwyn cael cefnogaeth i warchod ei ei blentyn pedair oed tra ei fod e a’i wraig yn sâl.
Ond yn ôl adroddiadau’r wasg heddiw (dydd Sul, Mai 24), fe deithiodd e i Durham eto bum niwrnod ar ôl teithio yno am y tro cyntaf, ac fe gafodd ei weld yn ymweld â chastell Barnard ar Sul y Pasg – 30 milltir i ffwrdd o Durham – er iddo ddweud ei fod e’n hunanynysu.
Yn ôl Downing Street, dydyn nhw ddim am “wastraffu amser” yn ymateb i’r honiadau newydd gan “bapurau newydd sy’n ymgyrchu”.
Mae disgwyl i Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, wynebu rhagor o gwestiynau yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Prydain yn ddiweddarach.