Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi gwahodd yr Athro Charlotte Williams i arwain gweithgor newydd i adolygu’r adnoddau dysgu yn y cwricwlwm newydd sy’n ymwneud â Chymunedau, Cyfraniadau a Chynefin pobol dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).

Bydd y grŵp hefyd yn cynghori ar gomisiynu adnoddau dysgu newydd, ac yn adolygu datblygiad proffesiynol i gefnogi addysgu yn y meysydd dysgu hyn ac yn adrodd arno.

Daw’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg ar ddechrau Mis Hanes Pobol Dduon.

“Mae hwn yn brosiect gwirioneddol arwyddocaol”, meddai’r Athro Charlotte Williams.

“Ein gweledigaeth yw y dylai pob disgybl, fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd, archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol pobol dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn y gorffennol a’r presennol.

“Byddai ein gweledigaeth yn golygu bod pob athro yng Nghymru, ym mhob maes dysgu a phrofiad, yn meddu ar y gallu a’r adnoddau i fodloni’r disgwyliadau hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm ac wrth addysgu.”

‘Addysg eang a chytbwys’

“Bydd y grŵp yn gweithio yn ysbryd canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru, gan ystyried yr egwyddorion a’r cyfeiriad strategol ac eang sydd eu hangen a sicrhau’r hyn sy’n bwysig o ran darparu addysg eang a chytbwys ar draws pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad”, meddai wedyn.

“Mae’r Grŵp mewn sefyllfa dda i roi ystyriaeth lawn i hanes, cyfraniadau a phrofiadau cymunedau BAME yn eu gwaith, ac i gyflwyno argymhellion a fydd yn arwain at gomisiynu adnoddau dysgu cadarn ac ystyrlon a chymorth adeiladol i ymarferwyr addysgu gynyddu eu sgiliau yn y maes dysgu pwysig iawn hwn.”

“Rwyf hefyd yn falch o nodi bod aelodau’r Gweithgor, dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams OBE, yn adlewyrchu ystod eang o brofiadau ac arbenigeddau.”

Mae’r grŵp yn cynnwys:

  • Abu-Bakr Madden Al-Shabazz, Canolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd
  • Angela Heald, pennaeth Ysgol Gynradd Cadeirlan St. Joseph, Abertawe
  • Clara Seery, Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De
  • Humie Webbe, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
  • Dr Marian Gwyn o Brifysgol Bangor
  • Yr Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe
  • Nia Williams o Ysgol y Preseli
  • Nicky Hagendyk, Arweinydd y Dyniaethau, Consortia EAS
  • Rajvi Glasbrook Griffiths, dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd High Cross, Tŷ-du
  • Dr Shehla Khan, darlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae disgwyl i’r grŵp adrodd erbyn canol yr hydref ar eu canfyddiadau cychwynnol, gan gynnwys argymhellion am adnoddau newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, gydag adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno yn y gwanwyn.