Mae Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, wedi cyhuddo’r wasg o “godi helynt” wrth awgrymu bod bariau San Steffan wedi’u heithrio o’r rheol sy’n gorfodi bariau a thafarnau i gau am 10 o’r gloch.
Cafodd y mater ei godi gan Martyn Day, Aelod Seneddol yr SNP, ac awgrymodd Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, nad oedd e’n sicr o’r sefyllfa gan ofyn i’r Llefarydd gadarnhau’r rheolau.
“Byddaf yn cadarnhau oherwydd pe bai’r aelod anrhydeddus [Martyn Day] wedi bod yn y Tŷ neu pe bai e wedi siarad â’i gydweithwyr, fe fyddai wedi sylweddoli,” meddai’r Llefarydd.
“Cafodd y penderfyniad ei wneud yr wythnos ddiwethaf.
“Yn anffodus, roedd y papurau newydd yn codi helynt.
“Doedd y bariau hynny ddim ar agor ar ôl 10 o’r gloch y nos, gadewch i ni egluro hynny, a dw i’n credu na ddylen ni gredu’r hyn mae papurau newydd yn ei ddweud weithiau.”