Mae corff gwarchod wedi datgelu bod y Blaid Geidwadol wedi gwario £16m ar yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Gwariodd y blaid £16,486,871 ar yng ngwledydd Prydain er mwyn ennill mwyafrif o 80 sedd yn Rhagfyr 2019, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.

Cafodd y talp mwyaf o arian – £5,818,998 – ei wario ar “ddeunydd i etholwyr”, meddai’r Comisiwn.

Fe wnaeth marchnata a chanfasio gostio £4,471,937, tra bod £3,011,665 wedi cael ei wario ar hysbysebu.

Gwariodd y blaid £529,650 ar ralïau a digwyddiadau eraill.

Gwariant pleidiau eraill

Dydy ffigyrau’r Blaid Lafur ddim wedi cael eu cyhoeddi eto gan fod ei chyflwyniadau ariannol i’r comisiwn yn hwyr oherwydd pandemig y coronafeirws.

Mae’r adroddiad yn dangos bod yr SNP wedi gwario £1,004,952 ar eu hymgyrch etholiadol.

Gwariodd Plaid Cymru £183,914 ar yr etholiad, tra bod Grŵp Annibynnol dros Newid wedi gwario £29,556.

Cost ymgyrch etholiadol UKIP oedd £8,761.

Bydd ffigyrau’r pleidiau eraill yn cael eu cyhoeddi cyn bo’ hir, meddai’r Comisiwn.