Mae Aelod o’r Senedd yn honni iddo gael ei “ffrwyno” yn ystod dadl ynghylch hiliaeth yn y Senedd.

Roedd Neil McEvoy – un o’r ychydig AoSau nad yw’n wyn – wedi cyflwyno pedwar gwelliant i gynnig ynghylch mynd i’r afael â hiliaeth yng Nghymru.

Ond cafodd y gwelliannau yna eu gwrthod gan y Llywydd, Elin Jones.

Yn ymateb i hynny daeth Neil McEvoy ag ambell brop gydag ef i’r cyfarfod llawn brynhawn dydd Mawrth.

Roedd ganddo dap dros ei geg a phlacard yn ei law – yn y pendraw, cafodd ganiatâd i gyfrannu ar ôl cytuno i roi’r rhain o’r neilltu.

Yn ystod ei gyfraniad dywedodd Neil McEvoy bod ei “lais wedi cael ei ddistewi”, ac mai “hiliaeth ar waith” oedd hynny.

Pwysleisiodd Elin Jones bod pob un gwelliant ar gyfer y ddadl wedi’u gwrthod – nid jest gwelliannau’r AoS hwnnw – a dywedodd bod yr Aelod wedi torri o leia’ tri o reolau’r Senedd yn ystod y sesiwn.

Ymateb y Llywydd

Cyn i Jane Hutt, y Dirprwy Prif Weinidog a’r Prif Chwip, fedru cyfrannu at y ddadl bu rhywfaint o anghytuno rhwng Neil McEvoy ac Elin Jones yn y siambr, ond yn y pen draw mi gafodd Mr McEvoy ganiatâd i siarad.

Wrth gyfrannu dywedodd Neil McEvoy bod ei “lais wedi ei ddistewi” ac mi ymyrrodd y Llywydd gan bwysleisio nad oedd hynny’n wir.

“Er eglurder, Mr McEvoy, rydych chi yn siarad,” meddai. “Dydyn ni ddim wedi eich distewi chi. Dw i wedi eich caniatáu i wneud yr holl bwyntiau yma yn ystod y ddadl.

“Er gwybodaeth i bob Aelod, gafodd dim un o welliannau heddiw eu derbyn. Nid yn unig rhai Neil McEvoy, ond gwelliannau gan eraill hefyd.

“Mae’r pwyllgor busnes ac Aelodau eisoes yn gwybod ein bod yn byw mewn cyfnod hynod – cyfnod y Senedd hybrid [trefn lle mae rhan fwyaf o AoSau yn cyfrannu dros y we]

“Byddaf yn awr yn ymdrechu i ganiatáu gwelliannau, neu beidio â chaniatáu, i siwtio Senedd hybrid. Dw i wedi dweud hyn droeon.”

“Hiliaeth ar waith”

Ymatebodd Neil McEvoy i hynny trwy ddweud ei fod yn anghytuno, a bod y gweithredu yn ei erbyn yn hiliol.

“Maddeuwch fi llywydd ond dw i’n anghytuno,” meddai. “dw i’n wleidydd sydd wedi fy ethol trwy ddulliau democrataidd.

“A dw i wedi cyflwyno gwelliannau synhwyrol iawn, a phositif iawn. Ac ydych rydych wedi gadael i mi siarad yn awr.

“Ond rydych wedi gwrthod fy hawl, fy hawl democrataidd, i gyflwyno’r rheiny a’u bod yn destun pleidlais. Ac os ydych eisiau fy marn i, barn sawl person, hiliaeth ar waith yw hynny.”

Yn dilyn hynny holodd Elin Jones: “Oes yna Senedd arall yn y byd a fyddai wedi gadael i chi siarad ar ôl codi twrw trwy gydol y ddadl?”

Pasiwyd y cynnig gwreiddiol gyda 48 o blaid. Cafodd ei gyflwyno gan Rebecca Evans, Siân Gwenllian a Darren Millar.